Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ein hymgynghoriad diweddar ar gynyddu'r cyfnod hysbysu byrraf ar gyfer ‘troi allan heb fai’, gwnaethom geisio barn rhanddeiliaid ar nifer o newidiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 drwy ddiwygio deddfwriaeth, cyn iddi ddod i rym yn ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd bresennol.

Gofynnodd y ddogfen ymgynghori 39 o gwestiynau ar draws naw maes cyffredinol ar amrywiaeth o bynciau a materion allweddol sy'n berthnasol i gynyddu'r cyfnod hysbysu byrraf ar gyfer ‘troi allan heb fai’. Bwriadwyd iddo gasglu barn amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn helpu i lywio'r ffordd orau ymlaen.

Cawsom 855 o ymatebion i'r ymgynghoriad o amrywiaeth o sectorau. Mae copi o'r crynodeb o ymatebion ar gael yma: https://llyw.cymru/ymestyn-y-cyfnod-hysbysu-byrraf-ganiateir-cyn-troi-tenant-allan-heb-fai.