Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, cyhoeddais ymgynghoriad a oedd yn amlinellu nifer o gynigion am newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol gyda’r nod o wella ansawdd y profiad i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn barn am y canlynol:

  • dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, fel rhan o’n Diweddariad i’r Rhaglen Lywodraethu, ein Cytundeb Cydweithio a gwaith parhaus gydag Aelodau Dynodedig, ac i gefnogi ein diwygiad ehangach o wasanaethau plant
  • cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gefnogi ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wella’r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol
  • ymestyn y trefniadau adrodd gorfodol ar gyfer plant ac oedolion sy’n wynebu risg, mewn egwyddor
  • diwygiadau i reoleiddio darparwyr gwasanaeth, unigolion cyfrifol a’r gweithlu gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys ymestyn y diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol i gynnwys gweithwyr gofal plant a gweithwyr chwarae at ddibenion penodol.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 17 Awst a 7 Tachwedd 2022. Roeddem yn falch o dderbyn 200 o ymatebion gan ystod eang o unigolion a sefydliadau, ar draws Cymru a thu hwnt. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, a heddiw rydym wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion.

Bydd y materion a godwyd yn yr ymarfer ymgynghori hwn yn hysbysu datblygiad pellach ein polisi a’n deddfwriaeth yn ymwneud â’r meysydd dan sylw, a byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau â’n partneriaid cyflawni ac eraill sy’n ceisio gwella gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus yng Nghymru.