Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Ar 9 Fai 2012 cyhoeddais bapur ymgynghori ar y cynigion ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy. Mae’n bleser gennyf nawr gyhoeddi crynodeb o’r ymgynghoriad hwn, sydd ynghlwm er gwybodaeth.
Mae’r ymateb gwych i’r ymgynghoriad hwn a’r gefnogaeth a fynegwyd am yr angen i gael deddfwriaeth i ddatblygu Cymru fwy cynaliadwy yn galonogol iawn.Ar draws yr ymatebion cafwyd cytundeb amlwg fod angen y newid hwn, ac i ddefnyddio deddfwriaeth i’w gyflawni. Cytunodd ymatebwyr hefyd ei bod yn hanfodol i unrhyw gorff newydd o dan y ddeddfwriaeth hon fod yn annibynnol, ac yn gallu rhoi’r arweiniad angenrheidiol i’r sector cyhoeddus i gydymffurfio â’r ddyletswydd arfaethedig.Mae canlyniadau’r ymarfer ymgynghori hwn yn dangos yn glir fod angen arweiniad clir ar ddatblygiad cynaliadwy o fewn sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y gallu i feithrin dealltwriaeth a gwybodaeth o egwyddorion datblygu cynaliadwy, a bod ein rhanddeiliaid yn disgwyl i Lywodraeth Cymru a’r corff newydd ddarparu’r arweiniad hwnnw.Yn y cyd-destun hwn cytunodd nifer o’r ymatebwyr fod angen mwy o eglurder a rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth arfaethedig, ac wrth drefnu ein ffordd ymlaen arfaethedig o ran y Papur Gwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn byddwn yn gwrando ar y negeseuon hyn ac yn sicrhau’r eglurder y gofynnwyd amdano.