Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i barhau ein cymorth ar gyfer ein rhaglen Dechrau’n Deg flaenllaw ac – yn unol â’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru – rydym yn ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn raddol er mwyn cynnwys pob plentyn dyflwydd oed, gyda phwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau bod cam cyntaf y gwaith o ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg wedi’i gwblhau’n llwyddiannus.

Nod y cam cyntaf, a ddechreuodd ym mis Medi 2022, oedd cynyddu darpariaeth pob un o bedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg i 2,500 yn rhagor o blant rhwng 0 a 4 oed. Byddai hyn yn golygu y byddai mwy o blant yn elwa ar gymorth Dechrau’n Deg, gan gynnwys cael mynediad at well ymweliadau iechyd, cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth rhianta a 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant 2 i 3 oed.

Mae data cychwynnol gan yr awdurdodau lleol yn awgrymu ein bod ni wedi pasio ein nod. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roeddem wedi cyrraedd at 3,178 o blant drwy’r cam cyntaf hwn. Roedd hyn yn cynnwys 772 o blant sydd wedi cael cynnig lle gofal plant. Mae nifer y llefydd gofal plant cyfrwng Cymraeg sydd wedi’u llenwi wedi treblu.

Mae’r gwaith ehangu hwn yn ystod y cam cyntaf yn awr yn rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg graidd. Mae hyn yn golygu mai targed cyffredinol Dechrau’n Deg yw darparu gwasanaethau i 38,500 o blant y flwyddyn.

Ar y cyd ag un o Aelodau Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, hoffwn ddiolch i’n hawdurdod lleol, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n sector gofal plant am eu holl waith i ymestyn gwasanaethau Dechrau’n Deg a chyflwyno darpariaeth uchel ei safon yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Byddwn yn dathlu’r gwaith partneriaeth hwn ac yn rhannu arferion da yn y Gynhadledd Cefnogi Teuluoedd, Rhieni a Phlant ar 14 Mehefin.

Dechreuodd yr ail gam ym mis Ebrill 2023 a thros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £46 miliwn yn y gwaith o ehangu gofal plant Dechrau’n Deg. Rydym yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 yn rhagor o blant dyflwydd oed ledled Cymru i gael mynediad at ofal plant Dechrau’n Deg safonol yn ystod y cam hwn. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gynnydd pellach.