Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei dyletswyddau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni gyfrannu at rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn y DU sy’n gydlynol yn ecolegol. Rwy’n cydnabod y gwerth a’r buddiannau a ddaw i’r amgylchedd morol ac i’r gymdeithas o greu rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a sicrhau bod y rhwydwaith hwnnw yn cael ei reoli’n dda ac mewn ffordd ecolegol gydlynol. Rwyf eisiau rhwydwaith sy’n cefnogi’r gwaith o warchod, gwella a sicrhau gwytnwch ein hamgylchedd morol ac sydd hefyd yn cefnogi defnyddio ein moroedd mewn modd cynaliadwy ar ein cyfer ni, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  

Mae canlyniad y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a Chyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i asesu’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at greu rhwydwaith sy'n ecolegol gydlynol.  

Rwyf wedi fy nghalonogi gan gasgliad yr asesiad. Mae’r rhwydwaith, fel cyfanwaith, wedi ei gysylltu’n dda ac mae’r rhan fywaf o gynefinoedd a rhywogaethau eang sydd â symudedd cyfyngedig neu nad ydynt yn symud yn cael eu cynrychioli a’u datblygu o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru i roi gwytnwch i’r rhwydwaith. Mae’r asesiad wedi nodi nifer bach o fylchau yn ein cyfraniad tuag at gydlyniant ecolegol ac mae angen i ni weithredu i fynd i’r afael â’r rheini pan fo hynny’n bosibl.  

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid morol i ystyried ac argymell y camau sy’n angenrheidiol ar gyfer mynd i’r afael â’r bylchau sydd wedi dod i’r amlwg. Rwyf wedi gofyn i’r gwaith roi ystyriaeth i’r bylchau a nodwyd yn rhanbarth dyfroedd môr mawr Cymru hefyd, a fydd yn dod yn gyfrifoldeb i Weinidogion Cymru ym mis Ebrill 2018. 

Bydd y dull gweithredu hwn yn golygu y bydd llawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud i gwblhau’r rhwydwaith yn dechrau ac yn digwydd ar yr un pryd ag y trosgwlwyddir pwerau gwarchod natur i Weinidogion Cymru ar gyfer ardaloedd dyfroedd môr mawr Cymru. Er hynny, credaf fod y dull hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod y dyfroedd o amgylch Cymru (ar y môr ac ar y glannau) yn cael eu hystyried wrth benderfynu sut i gwblhau cyfraniad Cymru at y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Hoffwn roi sicrwydd i randdeiliaid fy mod wedi ymrwymo’n llwyr i'n rhwymedigaethau o ran y rhwydwaith a bydd fy swyddogion yn dechrau ar y gwaith paratoi gyda rhanddeiliaid tua diwedd y flwyddyn pan fydd y gwaith yn gallu symud ymlaen ar y cyd â gwaith Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig er mwyn sefydlu dull rheoli  sy’n glir, yn gyson ac yn llyfn ar draws rhwydwaith Cymru.