Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyfres o estyniadau contract i'r cytundeb cyllido gyda Chwmni Egino, cynhaliwyd asesiad mewnol i ystyried addasrwydd estyniad pellach y tu hwnt i fis Mawrth 2026.

Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 er mwyn cyflwyno cynllun datblygu safle ar gyfer Trawsfynydd, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd-gymdeithasol. Yr uchelgais ar y pryd oedd sicrhau bod adweithydd modiwlaidd bach (SMR) yn cael ei adeiladu erbyn 2027.

Ym mis Mai 2024 penderfynodd Llywodraeth y DU na fyddai safle Trawsfynydd yn un o'r safleoedd cychwynnol sy'n cael eu hystyried yn eu cystadleuaeth SMR. Yn dilyn hyn, cynigiwyd cylch gwaith dros dro diwygiedig i Gwmni Egino i ystyried ychwanegu gwerth cymdeithasol ar draws ardal ehangach Gogledd Cymru. Mae'r cylch gwaith diwygiedig wedi creu ymgysylltiadau ffafriol â rhanddeiliaid, yn ogystal â llawlyfr gwerth cymdeithasol ac astudiaeth ynghylch y gadwyn gyflenwi.

Daeth asesiad mewnol i'r casgliad na ellir cynnal y cydbwysedd rhwng aros am lwybr datblygu cliriach ar gyfer Trawsfynydd, ac ymestyn cylch gwaith Cwmni Egino am gyfnod amhenodol. Rwy'n cytuno â'r casgliad hwn.  Felly, mae Gweinidogion Cymru, fel unig gyfranddaliwr Cwmni Egino, yn bwriadu pasio penderfyniad arbennig ar ddiwedd y cytundeb presennol ar 31 Mawrth 2026 yn rhoi cyfarwyddyd i'r cyfarwyddwyr ddiddymu'r cwmni.

Dros y misoedd sy'n weddill, bydd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chwmni Egino, yn ymgysylltu'n weithredol â rhanddeiliaid allweddol i bennu'r ffordd orau o ddirwyn y gweithgareddau i ben; yn ogystal â chreu archif o'r gwaith a gwblhawyd gan Gwmni Egino, fel y gellir eu defnyddio rywbryd yn y dyfodol.

Hoffwn gydnabod yn ffurfiol ac estyn diolch diffuant i dîm cyfan Cwmni Egino am eu hymroddiad a'r gwaith sylweddol y maent wedi'i gyflawni hyd yma. Mae eu dull cydweithredol wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo'r amcanion a osodwyd ar gyfer safle Trawsfynydd a chefnogi twf economaidd-gymdeithasol ledled Gogledd Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch yn benodol i'r Cadeirydd, Alan Raymant, am ei arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Chwmni Egin a'r rhanddeiliaid i ddarparu’r cymorth priodol, heb gyfyngu ar opsiynau ar gyfer Llywodraeth yn y dyfodol.