Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 23 Hydref 2020, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am ein bwriad i sefydlu cwmni datblygu newydd, Cwmni Egino, yn Nhrawsfynydd. Heddiw, gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion hynny.

Bydd yr Aelodau'n cofio mai diben Cwmni Egino yw cyflwyno prosiectau newydd posibl, gan gynnwys defnyddio adweithyddion niwclear bach i gynhyrchu trydan a hefyd adweithydd ymchwil radioisotope meddygol i gynhyrchu radioniwclidau i'w defnyddio i wneud diagnosis o ganser, a’i drin. Mae hwn yn gyfle economaidd o bwys i’r  Gogledd-orllewin, ac mae wedi'i wreiddio'n gadarn yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Rydym bellach wedi penodi Mike Tynan yn Brif Weithredwr dros dro ar Gwmni Egino. Mae Mike yn arweinydd profiadol iawn sydd wedi bod yn gweithio yn y sector ers dros 40 mlynedd.  Mae ganddo gefndir eang yn y sector niwclear sifil ac mae’r cefndir hwnnw’n amrywio o weithgynhyrchu tanwydd, i reoli gwastraff, i ddatgomisiynu ac i adeiladu o’r newydd.  Bydd yn mynd ati dros y misoedd nesaf i ddechrau datblygu a gweithredu cynllun busnes ffurfiol y cwmni er mwyn hwyluso a chyflwyno prosiectau allweddol. 

Mae Mike yn ymuno â Chadeirydd Cwmni Egino, Dr John Idris Jones. Mae John yn uchel ei barch yn y diwydiant niwclear yn dilyn ei swyddi blaenorol gyda Magnox a’i rolau cynrychioliadol eraill yn y sector. Bydd ei benodiad yn fodd i sicrhau dilyniant gwerthfawr rhwng gwaith Ardal Fenter Eryri, y mae hefyd yn Gadeirydd arni, a gwaith y cwmni newydd.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i faterion ddatblygu.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.  Os yw’r Aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.