Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Yn ein maniffesto fe wnaethon ni nodi'r achos dros un Cwmni Ynni Cyhoeddus i Gymru, dan berchnogaeth pobl Cymru ac yn gweithio dros bobl Cymru. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ynghylch cynigion i ddatblygu swyddogaethau ynni cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys sefydlu'r cwmni hwn.
Mae ein huchelgais yn glir. Rhaid i Gymru adeiladu mwy o'r ynni glân y mae ei angen arni, bod yn berchen ar fwy ohono, ac elwa'n fwy uniongyrchol arno. Bydd mwy o ynni glân, mwy o gydsyniad y cyhoedd a mwy o berchnogaeth gan bobl Cymru yn golygu bod mwy o werth economaidd a chymdeithasol yn cael ei gadw yng Nghymru, gan gefnogi economi gryfach a mwy ffyniannus yng Nghymru. Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da o ran cynllunio ar gyfer dyfodol ynni glân. Bellach, mae angen i ni gyflawni, gan sicrhau ffocws clir ar ddatganoli, a pharu dulliau o gynhyrchu ynni glân ag adnoddau naturiol Cymru a chefnogi eu defnydd yn lleol.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y gallwn ddwyn ynghyd swyddogaethau ynni cyhoeddus presennol mewn un Cwmni Ynni Cyhoeddus i Gymru. Byddai'r cwmni arfaethedig yn helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ynni presennol yn troi'n brosiectau gweithredol wedi'u hariannu, dan berchnogaeth pobl Cymru. Bydd yn cyflymu'r broses o gyflawni, yn cryfhau gallu'r sector cyhoeddus, yn cefnogi perchnogaeth gymunedol a lleol, ac yn cadw cyfran uwch o'r gwerth sy’n deillio o drawsnewid i ynni glân yng Nghymru.
Ar raddfa leol, mae yna gyfleoedd sylweddol i gefnogi cymunedau, cwmnïau cydweithredol, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt a solar ar y tir, a bod yn berchen ar y prosiectau hynny. Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar sut y gellir cyflymu'r broses o gyflwyno systemau ynni lleol clyfrach ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys archwilio modelau fel cartrefi ac adeiladau sy'n gweithredu fel gorsafoedd pŵer, batris cymunedol, rhwydweithiau gwresogi lleol, gwres dŵr mwyngloddiau, tariffau lleol, a dulliau eraill sy'n helpu i sicrhau bod yr ynni a gaiff ei gynhyrchu'n lleol yn cyfateb i'r galw lleol. Gall y dulliau hyn helpu cartrefi, busnesau a chymunedau i chwarae rôl fwy gweithredol yn system ynni'r dyfodol.
Yn achos datblygiadau o faint ac arwyddocâd cenedlaethol, megis y cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil gwynt ar y môr, rhaid i Gymru fod mewn sefyllfa i sicrhau ynni glân, cipio gwerth, cefnogi ein diwydiannau a chreu swyddi da yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig wrth symud o uchelgais i gyflawni. Bydd yn helpu i siapio'r modd y mae Cymru'n cryfhau ei gallu o ran ynni cyhoeddus, yn cynyddu'r berchnogaeth gan bobl Cymru, yn cefnogi cymunedau, ac yn sicrhau bod mwy o'r manteision sy’n deillio o drawsnewid i ynni glân yn cael eu cadw yma yng Nghymru.
Rwy'n annog unigolion, cymunedau, cyrff cyhoeddus, busnesau a rhanddeiliaid ledled Cymru i ymateb i'r ymgynghoriad a helpu i lunio cam nesaf dyfodol ynni glân Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 30 Tachwedd 2026.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
