Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

O fis Medi eleni, bydd pob ysgol yn addysgu'r Cwricwlwm i Gymru. Ac o 2026 ymlaen, bydd pob dysgwr yn ein hysgolion yn dysgu o dan y cwricwlwm newydd.

Rydym am weld system addysg yng Nghymru sy'n cefnogi pob plentyn a pherson ifanc trwy eu llwybrau unigol i gyflawni eu dyheadau wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y Pedwar Diben. Beth bynnag fo’u cam nesaf mewn addysg neu gyflogaeth, nod y Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg orfodol gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo; a bod eu cyflawniadau a’u cynnydd yn cael eu cydnabod. 

Mae cymwysterau yn elfen hanfodol o hyn. Mae Cymwysterau Cymru yn diwygio'r maes cyfan o gymwysterau 14-16 oed. Cynhaliwyd ymgynghoriad yn hydref 2022 ar gymwysterau TGAU diwygiedig, a wnaed yng Nghymru, i gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Ar 14 Mawrth 2023, mae Cymwysterau Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 – gan gynnwys cymwysterau Sgiliau, Cyn-alwedigaethol a lefel Sylfaen – a luniwyd er mwyn darparu cynnig mwy cynhwysfawr a chydlynus i bobl ifanc yng Nghymru.

Wrth i ni ddiwygio cymwysterau, rwy'n awyddus i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei botensial mewn llythrennedd a rhifedd drwy'r cymwysterau mwyaf addas yn y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg. Rydym yn disgwyl i gwricwlwm ehangach ysgolion barhau i roi dewis da o gyrsiau a chymwysterau i ddysgwyr o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, yn ogystal â chyfleoedd i ddysgwyr gael cymwysterau sy'n dangos eu sgiliau a'u profiadau ehangach. Bydd hyn yn adeiladu ar arfer da sy'n bodoli eisoes mewn ysgolion o dan Fagloriaeth Cymru, a bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Cymwysterau Cymru ar ei esblygiad o dan y Cwricwlwm i Gymru.

O dan y Cwricwlwm i Gymru, bydd dysgwyr 14–16 oed hefyd yn parhau i elwa ar y rhannau gorfodol hynny o'r cwricwlwm nad ydynt o reidrwydd yn arwain at gymwysterau, ond sy'n cyfrannu at eu datblygiad, eu llwyddiant a’u camau nesaf. Mae hyn yn cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol; a dysgu parhaus ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad. Mae'n rhaid inni hefyd gydnabod profiadau ehangach sy’n helpu dysgwr i gyflawni'r pedwar diben. 

Wrth i ddysgwyr agosáu at flwyddyn 10, bydd ysgolion yn parhau i chwarae rhan hanfodol o ran helpu pobl ifanc i nodi eu nodau a'u dyheadau fel y gallant symud ymlaen ar hyd y llwybr o'u dewis. Bydd dewisiadau ynghylch cymwysterau a chyrsiau yn rhan bwysig o hyn. Mae'n rhaid iddynt gael eu cefnogi gan addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel, sy’n rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd, sydd yn cynnig cyfle hollbwysig i ddatblygu perthnasoedd ar draws ysgolion, addysg bellach a chyflogwyr er mwyn helpu pobl ifanc i symud yn hyderus i'w cam nesaf. 

Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn gweithio gydag ysgolion i'w cefnogi i gyflawni'r weledigaeth hon ar gyfer dysgwyr drwy eu cwricwlwm 14-16, gan gynnwys cymwysterau, er mwyn helpu dysgwyr i symud ymlaen yn ddi-dor i gam nesaf eu haddysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Byddwn hefyd yn rhoi ein hymrwymiad i bwysigrwydd teithiau dysgu unigol, a ategir gan sgiliau, profiadau a chyflawniadau ehangach dysgwyr, wrth wraidd ein gwaith wrth i ni ddatblygu tirwedd newydd ar gyfer gwella ysgolion a’r sylfaen wybodaeth.