Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pleser gennyf yw cyhoeddi i Aelodau’r Cynulliad bod adrannau 11(3) ac 11(4) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn cychwyn ar 1 Gorffennaf 2014.

Bydd Adran 11(3) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae i blant yn eu hardaloedd, cyn belled â bo hynny’n ymarferol, gan ystyried eu hasesiadau digonolrwydd.   Mae Adran 11(4) yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol gyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd chwarae yn eu hardaloedd a diweddaru’r wybodaeth.

Ar ôl i’r Ddeddf hon ddod i rym, bydd yn cael ei dilyn gan Ganllaw Statudol i helpu Awdurdodau Lleol gydymffurfio â’r ddyletswydd hon.  Mae Adran 70 o’r un Mesur yn cychwyn ar 30 Mehefin 2014 er mwyn rhoi’r pwerau llawn i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r canllaw o dan y Mesur.

Bydd hyn yn cwblhau’r gwaith o roi Adran 11, Cyfleoedd Chwarae y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ar waith.

Rwy’n hyderus y bydd y ddeddfwriaeth hon yn symud ein hagenda ar chwarae plant yng Nghymru yn ei blaen, a’n hymrwymiad i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae’n ddiogel ac, yn enwedig, i gefnogi’r gwaith o roi mwy o gyfleoedd i blant anabl chwarae.