Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn cychwyn ar 1 Ebrill, ac yn ei sgil y ddyletswydd gonestrwydd, y ddyletswydd ansawdd a’r sefydliad newydd Llais.

Bydd y dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd yn cynorthwyo’r dull gweithredu parhaus, ar draws y system gyfan, ar gyfer gwella ansawdd yn y GIG, a bydd y diwylliant o fod yn agored a thryloyw yn cael ei wreiddio ymhellach.  Bydd sefydlu’r corff llais y dinesydd, sy'n cymryd lle’r cynghorau iechyd cymuned, yn cryfhau cynrychiolaeth pobl mewn gwasanaethau ac yn eu grymuso i siapio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol a dylanwadu arnynt.

Bydd y ddyletswydd ansawdd yn berthnasol i holl gyrff y GIG ac i Weinidogion Cymru, o ran eu swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae iddi ddau nod, sef sicrhau bod penderfyniadau sy’n seiliedig ar ansawdd yn gwella gwasanaethau iechyd, a bod y ffocws ar wella canlyniadau i bobl yn cael ei chynnal. Mae’n cynnwys safonau ansawdd iechyd a gofal newydd sy’n disodli safonau iechyd a gofal 2015. 

Mae sefydliadau'r GIG eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer y ddyletswydd hon, a fydd gobeithio yn gam arwyddocaol o ran sicrhau bod canlyniadau ansawdd yn cael eu rhannu â’r cyhoedd, yn ogystal â helpu i wella gwasanaethau’n barhaus.

Mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn adeiladu ar y gwaith sydd gennym ar y gweill i wreiddio diwylliant agored a thryloyw ar draws GIG Cymru, sydd yn ei dro yn sbarduno dysgu a gwelliannau i wasanaethau.  Mae'n gosod dyletswydd sefydliadol ar holl gyrff y GIG i gefnogi pobl a'u teuluoedd pan all pethau fynd o chwith. Hefyd, yn bwysig, mae’n sicrhau yr ymchwilir i ddigwyddiadau drwy’r broses Gweithio i Wella a bod gwersi’n cael eu rhannu i helpu i atal yr un peth rhag digwydd eto.

Bydd y corff newydd sy’n llais i’r dinesydd – sef Llais –  yn gorff cenedlaethol annibynnol a fydd yn cynrychioli pobl ledled Cymru yn y gwaith o siapio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd Llais yn cynrychioli barn a phrofiadau pobl ar sail eu defnydd o’r ddau wasanaeth, sy’n aml wedi’u cydblethu’n agos yng ngofal pobl, ac mae hynny’n gam pwysig tuag at integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Bydd Llais yn gweithio gyda sefydliadau’r GIG, awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, ar y cyd â’r cyhoedd, i sicrhau bod pobl yn cael eu clywed a'u cynrychioli'n barhaus ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. 

Mae Llais yn cymryd lle’r cynghorau iechyd cymuned yn eu rôl o gynrychioli llais cleifion o mewn gofal iechyd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o rwydwaith y Cynghorau Iechyd Cymuned am eu hymroddiad a'u gwasanaeth parhaus i Gymru dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae staff ac aelodau’r saith Cyngor Iechyd Cymuned a'r bwrdd cenedlaethol wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG, ac maen nhw hefyd wedi gweithio gyda'r GIG i wella gofal.

Rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth maen nhw wedi'i wneud ac yn falch eu bod wedi chwarae rhan mor allweddol yn y gwaith o greu a siapio Llais, felly bydd eu gwaith pwysig yn parhau

Gyda’i gilydd bydd y mesurau yn y Ddeddf yn ein helpu i fwrw ymlaen â’r uchelgeisiau o ran integreiddio a chynaliadwyedd a nodir yn Cymru Iachach; gan roi ansawdd a diogelwch wrth wraidd popeth y mae’r GIG yn ei wneud, ysgogi gwelliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, grymuso pobl i gyfrannu at wella iechyd a gofal ac, yn y pen draw, arwain at ganlyniadau gwell i bawb.

Mae dolen at Ganllawiau’r Ddyletswydd Ansawdd i’w gweld yma Y ddyletswydd ansawdd mewn gofal iechyd | LLYW.CYMRU

Mae dolenni at Reoliadau’r Ddyletswydd Gonestrwydd, y diwygiadau canlyniadol i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 a’r canllawiau i’w gweld yma  Dyletswydd Gonestrwydd y GIG | LLYW.CYMRU

Rheoliadau’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd (Cymru) 2023 (senedd.cymru)

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023 (senedd.cymru)

Memorandwm Esboniadol

Mae dolenni at Reoliadau Corff Llais y Dinesydd i’w gweld yma

Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol, Atodol a Deilliadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2023 (senedd.cymru)

Memorandwm Esboniadol