Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r teuluoedd cyntaf yng Nghymru bellach wedi cael bwndeli babi wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddechrau treialu’r cynllun.

Hoffwn ddiolch i'r bwrdd iechyd, a’r tîm bydwreigiaeth am eu cefnogaeth wrth fynd ati i gyflawni’r prosiect peilot hwn, a fydd yn golygu y bydd tua 200 o fwndeli yn cael eu dosbarthu yn ardal Bae Abertawe dros y misoedd nesaf.

Mae’r bwndeli babi wedi’u cynllunio i hybu iechyd a lles babanod newydd-anedig ac i helpu rhieni yn ystod dyddiau ac wythnosau cyntaf bywydau eu babi drwy ddarparu rhai o’r hanfodion y mae eu hangen ar bob teulu.

Mae pob bwndel babi yn y rhaglen beilot yn cynnwys dillad babi o ansawdd uchel, mewn amrywiaeth o feintiau; sachau cysgu babanod; rhai eitemau i chwarae â nhw ac i gefnogi cyfathrebu a bondio cynnar rhwng rhieni a'u plant; eitemau ar gyfer y cartref i helpu i olchi’ch babi yn ddiogel; ac amrywiaeth o eitemau i gefnogi menywod ar ôl rhoi genedigaeth.

Mae rhai bwndeli'n cynnwys siôl/sling babi tra bod eraill yn cynnwys pecyn cychwynnol o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio. Mae'r bwndeli hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i rieni newydd yn ogystal â dolenni at ein holl gymorth digidol ar rianta.

Bydd y rhain ar gael i bob rhiant newydd yn ardal y rhaglen beilot ond nid oes unrhyw reidrwydd ar rieni i dderbyn bwndel babi os nad oes arnynt eisiau nac angen un. Mae cynlluniau tebyg wedi cael eu defnyddio'n helaeth iawn ac mae'r dystiolaeth hyd yma'n awgrymu bod menywod yn Abertawe wedi bod yn awyddus i gofrestru ar gyfer y cynllun peilot yn eu hapwyntiadau cynenedigol 28 wythnos.

Cafodd datblygiad y bwndel babi a’i gynnwys ei lywio gan sylwadau rhieni newydd a gweithwyr proffesiynol. Rydym hefyd wedi dysgu gan gynlluniau tebyg mewn mannau eraill, gan gynnwys y cynllun yn yr Alban.

Bydd y rhaglen beilot yn cael ei gwerthuso’n annibynnol. Ar hyn o bryd, rydym yn ceisio rhoi prawf ar y cysyniad o ddarparu bwndel babi yng Nghymru ac yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwn am ei fanteision neu ei anfanteision. Bydd y canfyddiadau ar gael yng ngwanwyn 2021 a byddant yn helpu i lywio penderfyniadau mwy hir-dymor ynghylch y cynllun.

Byddaf yn diweddaru’r wybodaeth i'r Aelodau gyda rhagor o fanylion am y gwerthusiad o’r rhaglen beilot.