Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 3 Rhagfyr, gyda’r cyfranogwyr yn cymryd rhan o bell. Hwn fydd pumed cyfarfod y Cyd-bwyllgor ers i Lywodraeth Cymru gynnal y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Ionawr. 

Bydd y cyfarfod yn trafod y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, gan gynnwys Cyd-bwyllgor a Phwyllgorau Arbenigol y Cytundeb Ymadael. Bydd diweddariad ar faterion pontio gan gynnwys Parodrwydd y DU, Protocol Gogledd Iwerddon a’r amserlen ddeddfwriaethol. Hefyd bydd trafodaethau ar y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin a Bil Marchnad Fewnol y DU. Byddwn hefyd yn ystyried gwaith yr Adolygiad ar y cyd o Gysylltiadau Rhynglywodraethol hyd yn hyn.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl y cyfarfod.