Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 11 Hydref, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn bresennol yng nghyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE). Cafwyd diweddariad yn y cyfarfod hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE ar gynnydd y negodiadau, a thrafodwyd materion domestig sy'n gysylltiedig â Brexit, gan gynnwys fframweithiau cyffredin, parodrwydd a deddfwriaeth.

Trafodwyd yn y Cyd-bwyllgor faterion ymfudo hefyd, ac roedd y cyfarfod ei hun yn cael ei gynnal ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo gael ei gyhoeddi a chyn i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar y mater pwysig hwn ddod i law.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwbl glir nad oes modd trafod y polisi ar ymfudo mewn gwagle. Nid yw hyn yn bosibl pan fydd hawliau dinasyddion Prydain i fyw a gweithio mewn ardaloedd eraill yn Ewrop, ac i'r gwrthwyneb, yn rhan hanfodol o'r negodiadau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi dangos y bydd dal angen mudwyr arnom yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gael budd ohonynt. Byddem yn ffôl iawn i roi ein mynediad at y farchnad sengl mewn perygl drwy fynnu rhoi terfyn ar hawl pobl i symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ac wedyn gorfod cynyddu'r niferoedd sy'n mewnfudo o rannau eraill o'r byd.

Yn Fforwm y Gweinidogion ar Negodiadau'r UE ar 22 Hydref, cododd y Gweinidog Tai ac Adfywio, ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ein dadleuon dros gael Llywodraeth y DU i ymgysylltu ynghylch ei chynigion ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae'r Fforwm yn eistedd o dan Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ac yn rhannu'r un cylch gorchwyl. Y cyfarfod ar 22 Hydref oedd y pumed tro i'r Fforwm gyfarfod.

Canolbwyntiwyd yn y cyfarfod ar gynlluniau Llywodraeth y DU a'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r 'cytundebau cydweithredol'. Darparu dull strategol ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE yw bwriad Llywodraeth y DU gyda'r cytundebau hyn, yn ogystal â chytuno ar gyfranogiad y DU mewn rhaglenni penodol yr UE fesul achos.

Rydym wedi bod yn glir bod Cymru yn genedl agored, ac mae ein prifysgolion, arloeswyr a'n gwneuthurwyr yn gweithio gyda phartneriaid drwy Ewrop a thu hwnt. Rydym am i brifysgolion, colegau, ysgolion, busnesau a sefydliadau celfyddydol Cymru barhau i gydweithio mewn rhwydweithiau Ewropeaidd fel Horizon 2020, Erasmus+ ac Ewrop Greadigol. Rydym hefyd yn glir na all Llywodraeth y DU benderfynu pa raglenni y dylai'r DU barhau i gymryd rhan ynddynt heb inni fod yn rhan o'r penderfyniad hwnnw. At hynny, rydym wedi mynegi ein pryderon, er mwyn gwireddu holl fuddion y rhaglenni yn llawn, na ellir eu hystyried heb gadw mewn cof faterion ynghylch symudedd a darpariaeth gwasanaethau.

Mae'r DU wedi cyrraedd cam tyngedfennol yn y negodiadau â'r UE mewn perthynas â'i hymadawiad a natur ein perthynas yn y dyfodol. Rydym ni wedi gwthio i gael bod yn rhan o ddatblygu'r datganiad gwleidyddol y bwriedir iddo gyd-fynd â'r cytundeb ymadael. Mae ein hagwedd ni’n bendant o hyd fod yn rhaid osgoi sefyllfa lle na ellir dod i gytundeb. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefyll yn barod i drafod â Llywodraeth y DU gydol y broses hyd yma, yn barod i gyfrannu at safbwynt y DU a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu. Rydym yn ymroddedig i'r amcanion hyn o hyd, a byddwn yn parhau i ddiweddaru Aelodau'r Cynulliad ar gynnydd y gwaith hwn.