Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ysgrifennaf i hysbysu’r Senedd am gydsyniad diweddar i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru. Ceisiwyd cytundeb i wneud Gorchymyn Deddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018 (Cymorth Anabledd a Rhannu Gwybodaeth) (Darpariaeth Ganlyniadol ac Addasiadau) 2022. Hwn yw’r ail Orchymyn i gael ei wneud o dan adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998 o ganlyniad i adran 31 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018.

Mae adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n fuddiol o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd yr Alban.

Mae erthygl 11 o’r Gorchymyn arfaethedig yn diwygio rheoliad 53 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001. Bydd y diwygiadau yn galluogi unigolion cymwys i ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr heb fod angen prawf o’u cais (heb fod angen iddo gael ei ardystio) os ydynt yn derbyn yr elfen symudedd o gymorth anabledd newydd yn yr Alban, a elwir yn Daliad Anabledd i Oedolion (ADP), ar y raddfa uwch. Mae’r diwygiadau i reoliad 53, i’r graddau eu bod yn berthnasol i geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, yn gwneud darpariaeth mewn maes sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Effaith y Gorchymyn yw bod unigolion sydd wedi symud i Gymru yn ddiweddar ac sy’n parhau, am y tro, i dderbyn yr elfen symudedd o’r cymorth ADP ar y raddfa uwch sy’n daladwy yn yr Alban yn dal yn gymwys i ymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru heb fod angen prawf o’u cais (heb fod angen iddo gael ei ardystio), ar yr amod y bodlonir yr holl amodau cofrestru perthnasol.

Mae’r diwygiad arfaethedig yn gyson â’r dull a fabwysiadwyd cyn hyn gan Orchymyn Deddf Nawdd Cymdeithasol (Yr Alban) 2018 (Cymorth Anabledd, Grantiau Gofalwyr Ifanc, Cymorth Tymor Byr a Chymorth Gwresogi'r Gaeaf) (Darpariaeth Ganlyniadol ac Addasiadau) 2021 mewn perthynas ag unigolion sy’n derbyn yr elfen symudedd o gymorth anabledd i blant a phobl ifanc ar y gyfradd uwch yn yr Alban.

Bydd y diwygiad yn rhoi parhad i unigolion ac yn caniatáu iddynt gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar yr un sail ag y byddent wedi bod yn gymwys i’w wneud pe bai eu hawliad newydd am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy yng Nghymru wedi cael ei brosesu ar yr adeg berthnasol. Gan mai am gyfnod byr y byddai hyn, ac mae’n debygol mai cyfyngedig fyddai’r effaith, cytunais felly fod Llywodraeth y DU yn parhau â’r Gorchymyn ar yr un sail â Gorchymyn 2021.

Bydd y Gorchymyn yn cael ei osod gerbron Senedd y DU ar 27 Ionawr 2022.