Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS
Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch o ddatgan bod y Cynllun Gweithredu Manwerthu, “Cydweithio er budd Manwerthu wedi ei gyhoeddi, sy’n gosod camau gweithredu yn erbyn blaenoriaethau manwerthu. Mae’r camau gweithredu hyn yn cael eu rhannu gan yr holl bartneriaid cymdeithasol yn y Fforwm Manwerthu, ac  mae'n dangos yn glir gwerth gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.  Rydym yn ddiolchgar i aelodau’r Fforwm am eu diddordeb a’u cymorth, ac yn ddiolchgar i’n holl bartneriaid am eu hymrwymiad i gydweithio i gyflawni’r Cynllun hwn. 

Mae’r Cynllun Gweithredu yn adeiladu ar adroddiad Gweledigaeth Strategol a Rennir ar gyfer y Sector Manwerthu y Fforwm Manwerthu, a lansiwyd yn 2022, a’r adroddiad craff ‘Codi’r Bar’ a luniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Mae’n nodi ystod o gamau gweithredu cydlynol, realistig ac ymestynnol o dan bob un o’r tair colofn allweddol a nodwyd gan y Fforwm Manwerthu fel meysydd blaenoriaeth, sef – pobl, lle, a chydnerthedd. 

Mae’n adeiladu ar ein huchelgeisiau sydd o fewn ein Cenhadaeth Economaidd i gael Cymru decach a gwyrddach, gyda sector manwerthu mwy cadarn sydd â chysylltiadau cryf â chanol ein trefi. Y sector manwerthu yw’r un o’r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru ac mae’n ymestyn i gymunedau ledled y wlad. Mae’r sector yn gwneud cyfraniad hanfodol i ganol ein trefi a’n dinasoedd, ein cymunedau gwledig a’n lles ehangach. Daeth hyn yn amlwg yn ystod y pandemig, pan fu manwerthwyr yn darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod cyfnod anodd.

Mae’r Llywodraeth hon am weld sector manwerthu cynaliadwy a gwydn yng Nghymru sy’n cynnig gwaith teg a diogel, sy’n rhoi boddhad.  Mae cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Manwerthu a’r dull partneriaeth gymdeithasol y mae wedi ei seilio arno yn gam pwysig o ran helpu i gyflawni’r dyheadau hynny a rennir.