Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, trefnodd Llywodraeth Cymru, gyda'r Gynhadledd ar gyfer Rhanbarthau Ymylol a Morol (CPMR) gyfarfod o arweinwyr rhanbarthol a lleol Ewropeaidd i drafod ffyrdd y gall rhanbarthau Ewrop barhau i gydweithredu ar ôl Brexit ac, gyda'i gilydd, reoli effeithiau Brexit sydd yn cael ei deimlo ledled Ewrop.

Daeth y digwyddiad hwn i ben wrth lofnodi Datganiad Caerdydd; cadarnhawyd hyn gan Gynulliad Cyffredinol y CPMR, sy'n cynrychioli dros 160 o ranbarthau Ewropeaidd, ac fe'i llofnodwyd heddiw gan 20 o arweinwyr rhanbarthol ac awdurdodau lleol Ewrop o'r Alban, Ffrainc, Iwerddon, Sbaen, yr Almaen, Sweden, Norwy a'r Iseldiroedd.

Yr wyf yn glir, er ein bod yn parchu canlyniad y Refferendwm, ac yr ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hyn yn golygu ein bod yn gadael Ewrop. Rydym yn wlad sy'n edrych allan ac ni fyddwn yn troi ein cefn i ffrindiau a phartneriaid yr ydym wedi cyflawni cymaint â hwy.

Yn ein cynhadledd, fe wnaethom ni adlewyrchu'r ffyrdd yr ydym ni, fel rhanbarthau Ewrop, wedi cydweithio'n llwyddiannus - er enghraifft, ymchwil gydweithredol rhwng ein prifysgolion trwy raglen Horizon 2020, gan rannu profiad mewn polisi iechyd trwy rwydweithiau Ewropeaidd, gyda un o'r rhain yn cael eu gadeirio gan Llywodraeth Cynru ar hyn o bryd, a'r rhaglenni cydweithredu tiriogaethol (Interreg) sy'n galluogi ein rhanbarthau i ddatblygu prosiectau ar y cyd sy'n canolbwyntio ar dwf economaidd. Roedd ein trafodaethau hefyd yn ystyried y ffyrdd y mae Brexit yn effeithio ar ranbarthau ar draws yr UE, yn enwedig y rheiny yn Iwerddon.

Mae'r Datganiad yn fynegiant pwysig nid yn unig o awydd cyfunol rhanbarthau ar draws Ewrop i barhau i gydweithredu unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE, ond hefyd o gydnaws a chefnogaeth i Gymru a rhanbarthau eraill y DU wrth inni wynebu heriau annisgwyl Brexit .

Mae'r Datganiad hefyd yn cynnwys ystod o flaenoriaethau a rennir mewn perthynas â Brexit, fel cyfranogiad y DU yn y Farchnad Sengl yn y dyfodol a pharch at ddatganoli - mae pob un ohonynt yn gyson â'r blaenoriaethau ar gyfer Cymru a nodais yn "Diogelu Dyfodol Cymru".

Drwy nodi ein pryderon a'n blaenoriaethau ar y cyd gall Datganiad Caerdydd, gobeithiwn, fod yn ffordd ddefnyddiol o godi'r materion hyn gyda'n Sefydliadau Ewropeaidd, yn arbennig trwy Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau (CoR) - yn enwedig cymaint o aelodau'r CPMR hefyd yn aelodau o'r CoR.

Mae gan y CoR gyfarfodydd yn ystod y misoedd nesaf gyda Michel Barnier, Prif Negotiannwr y Comisiwn Ewropeaidd, a gyda Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, lle rydym yn disgwyl y bydd Datganiad Caerdydd yn cael ei amlygu.

Yn y digwyddiad, gwnaethom alw am gytundeb cyflym ar gam cyntaf y trafodaethau dros dynnu'n ôl y DU o'r UE, er mwyn osgoi senario trychinebus o unrhyw ddêl, sydd mewn diddordeb neb. Byddai'r cytundeb hwn yn paratoi'r ffordd i berthynas newydd gyda'n partneriaid Ewropeaidd, un a ddylai fod yn seiliedig ar sicrhau ffyniant a thegwch i bawb.