Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi pumed Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'r adroddiad yn cwmpasu'r cyfnod hyd at 31 Mehefin 2023. Ceir yn yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amrywiaeth o gymorth a ddarperir ym mhob cwr o Gymru i gymuned y Lluoedd Arfog. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sydd wedi gwasanaethu, a'u teuluoedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda'n holl bartneriaid i barhau â'n hymrwymiad i gynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog. 

Hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog a'r holl randdeiliaid ledled Cymru am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau sy'n cydnabod gwerth ac aberth cymuned y Lluoedd Arfog. 

Mae copi o Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, i'w weld yn: Cyfamod y Lluoedd Arfog: adroddiad blynyddol 2022 i 2023