Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf adrodd ar ddau gyfarfod diweddar Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ar 27 Mehefin a 1-2 Hydref dan gadeiryddiaeth Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd:


Cyfarfod y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd: Mehefin 2012

Cynhaliwyd cyfarfod ar 27 Mehefin yn y Barri a hwn oedd cyfarfod cyntaf y Comisiwn gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth annibynnol lawn. Cynnal Cymru sy’n darparu’r ysgrifenyddiaeth bellach, yn dilyn eu cynnig llwyddiannus i ddarparu cefnogaeth ehangach ar gyfer sicrhau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.

Cyflwynwyd y canfyddiadau allweddol i’r Comisiwn o bedwerydd adroddiad cynnydd Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd i’r Senedd a oedd yn cynnwys adran benodol am gynnydd y gweinyddiaethau datganoledig. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y data mwyaf diweddar ar gyfer allyriadau ar draws yr economi i gyd (ar gyfer 2009 ar hyn o bryd), yn dangos gostyngiad o 14% Yng Nghymru a bod hyn yn bennaf oherwydd y gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd a’r galw am ynni o ganlyniad i’r dirwasgiad.

Roedd canfyddiadau allweddol eraill ar gyfer Cymru yn cynnwys -

  • Mae’n debygol bod allyriadau wedi codi yn 2010, yn bennaf oherwydd cynnydd yn y galw am ynni o ganlyniad i’r tymheredd arbennig o oer ar ddechrau a diwedd 2010.
  • Mae’n debygol bod allyriadau wedi disgyn yn 2011, oherwydd tymheredd mwynach a gostyngiadau sylweddol yn allyriadau sectorau ynni-ddwys yn System Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd.
  • Y cynnydd a amlinellwyd yn adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru. Cydnabu’r Pwyllgor y meysydd penodol canlynol:
  1. Cyfraddau uwch na’r disgwyl o fesurau inswleiddio cartrefi yng Nghymru, o ystyried maint ei chyfran o stoc tai Prydain gyfan.
  2. Y cyfraddau ailgylchu gwastraff uchaf yn y DU.
  3. Y defnydd o arferion ffermio effeithlon a choedwigo.

  • Daeth y Comisiwn i’r casgliad y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrechu’n fwy ar draws pob sector yn y dyfodol er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol Cymru o ran lleihau allyriadau, yn yr un modd â chyllidebau carbon y DU. Bydd angen iddo ymchwilio i bolisïau newydd a’u gweithredu y tu hwnt i’r pecyn cyfredol o ymrwymiadau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleihau Allyriadau.

Rhoddwyd nifer o gyflwyniadau i’r Comisiwn hefyd ar gyflymu’r economi werdd a oedd yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, ar Strategaeth Gwyddoniaeth Cymru a rôl Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru a sut y gallai hwn gyd-gysylltu â gwaith y Comisiwn.

Roedd Peter Young o grŵp Aldersgate hefyd yn bresennol yn y sesiwn a chyflwynodd themâu allweddol gwaith grŵp Aldersgate. Cenhadaeth graidd y grŵp yw ysgogi’r newid mewn polisi sydd ei angen i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol yn effeithiol a sicrhau’r manteision economaidd mwyaf o ran twf cynaliadwy, swyddi a chystadleurwydd.

Yn olaf, lansiodd y Comisiwn ei bapur sefyllfa cyntaf yn swyddogol ar Drafnidiaeth a’r Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru. Mae’r papur yn amlinellu ei asesiad a’i argymhellion ar drafnidiaeth a’r newid yn yr hinsawdd er mwyn bwydo i waith y Comisiwn a Llywodraeth Cymru ac i gynghori rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar faterion ac argymhellion allweddol.

Tynnwyd sylw at y sector yn adroddiad blynyddol cyntaf y Comisiwn fel maes allweddol i’w wella. Nod y Comisiwn felly yw codi lefel y drafodaeth ynghylch trafnidiaeth a’r newid yn yr hinsawdd a chynnig egwyddorion a chamau blaenoriaeth i sicrhau cynnydd yn y maes allweddol hwn.

Wrth ddatblygu’r papur, comisiynodd is-grŵp trafnidiaeth y Comisiwn ymchwil a  bu’n trafod â rhanddeiliaid er mwyn casglu’r dystiolaeth orau bosibl.

Cafodd yr is-grŵp trafnidiaeth ei sefydlu i ddatblygu’r papur hwn a chafodd ei gadeirio gan Dr Lorraine Whitmarsh, sy’n cynrychioli buddion trafnidiaeth ar y Comisiwn.

Cyfarfod y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd: Hydref 2012

Roedd y cyfarfod ym mis Hydref yn canolbwyntio ar rôl is-grwpiau’r Comisiwn. Cafwyd cyflwyniad am yr amgylchedd adeiledig gan Grŵp Cymru Carbon Isel/Digarbon; cyflwyniad am y Cynlluniau Ymaddasu Sectorol (SAPs) gan yr Is-grŵp Ymaddasu; a chyflwyniad am y cynnydd yn y sector amaethyddol gan y Grŵp Defnydd Tir a Newid Hinsawdd.

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Comisiwn hefyd ar y dangosyddion lliniaru arfaethedig a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i fonitro cynnydd wrth gyflawni’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Hefyd, rhoddais ddiweddariad ysgrifenedig ar nifer o feysydd allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Y cyllid ychwanegol o £2 miliwn sydd ar gael yn 2012/13 o gronfeydd cyfalaf i gefnogi Arbed a’i gyfeirio at awdurdodau lleol i’w helpu i ddenu cyllid CESP/CERT ychwanegol i Gymru cyn diwedd CERT ar 31 Rhagfyr 2012. Mae hwn wedi cael ei glustnodi i 10 o brosiectau ledled Cymru a bydd yn helpu i wella tua 1300 o dai.
  • Yr ymgynghoriad ar y “Cynigion ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy” a’r Papur Gwyn ynghylch deddfu i wneud Datblygu Cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Yr adroddiad ar ymgynghoriad papur gwyrdd Cynnal Cymru Fyw.


I ddod â’r sesiwn i ben trafododd y Comisiwn ei adroddiad blynyddol nesaf a’r trefniadau ar gyfer y cyfarfod nesaf pan fydd y Comisiwn yn dathlu ei 5ed pen-blwydd. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Rhagfyr a chynhelir rhan o’r sesiwn yn y Senedd ac estynnir gwahoddiad i siaradwyr gwadd.


Gellir gweld yr holl gyflwyniadau a chofnodion y cyfarfodydd ar wefan Cynnal Cymru.