Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Rhwng 25 a 28 Tachwedd, cefais y fraint o fod yn bresennol yng nghyfarfod blynyddol rhif 30 Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd, a gynhaliwyd yn St Pölten, Awstria.
Yn ystod y cyfarfod tri diwrnod o hyd hwn, daeth arweinwyr ac arbenigwyr iechyd ynghyd o'r 44 o Ranbarthau dros Iechyd yn y 26 o wledydd Ewropeaidd sy'n aelodau o Sefydliad Iechyd y Byd. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar rai o'r heriau rydym yn eu hwynebu ar y cyd, gan gynnwys heneiddio'n iach, atal, gofal integredig a thrawsnewid iechyd digidol.
Cefais gyfle i dynnu sylw at ein strategaeth newydd 10 mlynedd o hyd, sef y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, a chael trafodaethau dwyochrog ag Elisabeth Bräutigam, aelod o Fwrdd Gweithredol Asiantaeth Iechyd Awstria Isaf, sy'n gyfrifol am iechyd a gofal.
Mae rhannu profiadau Cymru ar y llwyfan byd-eang yn dangos sut y gall gwledydd llai arwain ar arloesi ym maes iechyd y cyhoedd. Trwy ddysgu gan wledydd Ewropeaidd eraill, gallwn wella canlyniadau iechyd a llesiant i'n poblogaethau. Mae gan Gymru berthynas hirsefydlog â Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop a'r Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd. Adlewyrchir hyn mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, sy'n ymwneud â thegwch a hawliau iechyd, buddsoddi mewn iechyd a llesiant a'r amodau sylfaenol sy'n hanfodol i iechyd, a'r rheidrwydd i sicrhau datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ynghyd â'n cyfraniad at rwydweithiau Ewropeaidd ehangach fel y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd, yn cryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol ac yn ein cynorthwyo i gyflawni'r nodau sy'n ymwneud â sicrhau Cymru iachach a mwy ffyniannus.
