Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel ddydd Llun (26 Ionawr), yn rhan o Ddirprwyaeth Weinidogol y Deyrnas Unedig. Cymerais ran yn y cyfarfodydd briffio rhagarweiniol arferol gyda’m cymdogion a manteisiais ar y cyfle i amlinellu’r materion sy’n bwysig i Gymru. Y tro hwn, yr oedd Gweinidog Defra, George Eustice AS a Richard Lochhead MSP, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Faterion Gwledig, Bwyd a’r Amgylchedd, yn bresennol.    

Prif bwnc trafod y Gweinidogion Ffermio o Ewrop oedd effaith y waharddiad ar fasnachu cynnyrch amaethyddol rhwng yr UE â Rwsia. Er nad oes fasnach uniongyrchol o gynnyrch amaethyddol rhwng cynhyrchwyr neu broseswyr yng Nghymru â Rwsia, bu masnach sylweddol o gynnyrch llaeth - yn enwedig caws a menyn - rhwng aelodau-wladwriaeth eraill yr UE â Rwsia. Mae gwaharddiad Rwsia wedi ychwanegu at yr heriau a wynebir gan gynhyrchwyr llaeth mewn marchnadoedd rhyngwladol, ac mae wedi cyfrannu at brisiau llaeth yn gostwng. Roeddwn yn falch ein bod wedi llwyddo yng Nghyfarfod y Cyngor, i sicrhau bod cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at sefyllfa fregus ffermydd llaeth Cymru. Byddaf yn dal ati i amddiffyn ein sector llaeth bwysig.

Pwysleisiais hefyd i gymdogion pwysigrwydd helpu ffermwyr Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd allforio a’r angen i’r UE fonitro yn barhaus effaith y cwymp ym mhrisiau llaeth ar ffermwyr.
Gwyddom fod hon yn broblem sy’n effeithio ar ffermwyr nifer o wledydd yr UE. Dyna pam roedd yn hanfodol y roddom pwysau ar y Comisiynydd Hogan a’i wasanaethau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac ystyried yr hyn y gellid ei wneud ar lefel Ewropeaidd i gefnogi ffermwyr a mabwysiadu dull cyfun ar draws yr UE i ddelio â goblygiadau’r gwaharddiad ar fasnachu â Rwsia.

Cymerais y cyfle hefyd i bwysleisio i gyd-Weinidogion pwysigrwydd cymryd camau yn y DU 
i gefnogi ein diwydiant llaeth. Fel yr addawais yn Siambr y Cynulliad, codais gyda'r Gweinidog Defra bwysigrwydd sicrhau bod Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd yn meddu ar y arfau mae arni ei angen i gyflawni ar gyfer ein ffermwyr llaeth. Byddaf yn parhau i fynd ar drywydd y mater hwn.

Mae’r diwydiant yn dal i berfformio’n well na lefelau llynedd o ran cynhyrchu llaeth, ac felly bydd angen canfod marchnadoedd newydd i ddiwallu’r stoc caws a menyn neu allgyfeirio’r cyflenwadau llaeth i greu cynnyrch arall. Roedd y Comisiwn yn awyddus i nodi, fel yr wyf uchod, bod y ragolwg rhyngwladol hirdymor ffermydd llaeth yn bositif. Mae’n amserol felly fy mod wedi comisiynu  adolygiad o’r sector llaeth dan arweiniad Andy Richardson o Dasglu Llaeth Cymru. Disgwyliaf i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror. Mae’n rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i adolygu cynnydd y Cynllun Llaeth a’r modd y gweithredir y Cod Gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r UE yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd gwledig Cymru, boed drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin neu’r cyfleoedd a gynigir gan y Cronfeydd Strwythurol. 
Byddaf yn parhau i gydweithio’n agos â’m cyd-Weinidogion o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a’r UE i amddiffyn ac hyrwyddo buddiannau ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru.