Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf eisoes wedi datgan fy mwriad i adolygu’r modd y mae addysg Gymraeg yn cael ei gynllunio trwy’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Mae’n bleser gen i gyhoeddi fod bwrdd cynghori annibynnol wedi’i sefydlu ac yn cwrdd heddiw (17. Mai) am y tro cyntaf.

Bydd Bwrdd Cynghori CSGA yn cael ei gadeirio gan Aled Roberts. Cafodd ei apwyntio yn gynharach eleni i gyflawni cam dau o’r gwaith sy’n dilyn Adolygiad Brys o’r CSGA, gan weithredu’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw. Rwy’n sicr y bydd aelodau’r bwrdd, sydd wedi’u hadnabod am eu profiad a’u gwybodaeth, yn cefnogi’r gwaith o bennu cyfeiriad y CSGA ar gyfer y dyfodol a goruchwylio argymhellion yr adolygiad. Bydd y gwaith a wneir yn galluogi mynediad teg i’r cyfleoedd ieithyddol, diwylliannol ac academaidd a cheir o dderbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Un o brif dasgau’r bwrdd fydd adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n pennu sgôp a strwythur y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Rwyf wedi bod yn glir iawn o’r angen i fod yn uchelgeisiol gyda’r newidiadau a wnawn nawr os ydym am lwyddo i gyrraedd eich nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’n galonogol i weld ymrwymiad awdurdodau lleol i gofleidio dulliau newydd o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.  

Edrychaf ymlaen at gwrdd ag aelodau’r Bwrdd Cynghori fydd yn ein harwain drwy gan 2 o’r adolygiad.

Mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys:

Meirion Prys Jones, Cyn- Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) gyda 18 mlynedd o brofiad addysg  

Bethan Morris Jones, Pennaeth ysgol Gynradd yng Ngwynedd gyda phrofiad  ADY a’r iaith Gymraeg

Sarah Mutch, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Caerffili, fyddai’n cynnig cyd-destun awdurdod lleol gwerthfawr

Dylan Foster Evans, Darlithydd/Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a Llywodraethwr ysgol yng Nghaerdydd