Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr haf, ac eto yn fy natganiad llafar ar 13 Medi, ymrwymais i sefydlu Grŵp Cynghori ar Ewrop er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar yr heriau a’r cyfleoedd posib sy’n codi yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn ystyried beth yw’r ffordd orau i Gymru sicrhau perthynas gadarnhaol barhaus gydag Ewrop.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori y bore yma, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Yn bresennol, roedd amrywiol unigolion ag arbenigedd mewn materion Ewropeaidd gan gynnwys Aelodau o Senedd Ewrop, arweinwyr busnes a chynrychiolwyr o brifysgolion, colegau, undebau llafur, y byd amaeth, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.  Ymysg y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod cyntaf roedd y datblygiadau ers y refferendwm yng Nghymru ac ar lefel y DU, ac amrywiol faterion pwysig a themâu trawsbynciol gan gynnwys: y farchnad sengl; mudo; mesurau diogelu cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd; goblygiadau deddfwriaethol, ariannol a chyfansoddiadol; a safle Cymru yn Ewrop.

Mae gan y Grŵp Cynghori gyfoeth o arbenigedd a phrofiad. Mae’r materion sy’n codi yn sgil ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn mynd llawer dyfnach na buddiannau unrhyw blaid neu Lywodraeth benodol. Nid oes gan unrhyw unigolyn neu blaid fonopoli ar syniadau da, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at fanteisio ymhellach ar gyngor y grŵp hwn.

Bydd trafodaethau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop yn rai cyfrinachol, ond bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am ei waith yn cael ei darparu fel rhan o adroddiadau rheolaidd Llywodraeth Cymru i’r Cynulliad Cenedlaethol ar gynnydd gwaith yn ymwneud ag ymadawiad y DU o’r UE.

Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Ewrop:

  • Y Cynghorydd Phil Bale – Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
  • Kevin Crofton – Llywydd, SPTS Technologies Ltd
  • Yr Athro Richard B. Davies – Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe
  • Jill Evans ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Nathan Gill AC / ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • David Jones OBE – Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Cambria
  • Syr Emyr Jones Parry – Llywydd, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Hywel Ceri Jones – Cyn-lysgennad cyllid yr UE yng Nghymru
  • Tom Jones OBE – Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Kinnock – Cyn is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd
  • Martin Mansfield – Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks MBE – Prif Weithredwr, CGGC
  • Y Farwnes Eluned Morgan AC – Cyn-aelod o Senedd Ewrop
  • William Powell – Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ewrop yn ystod y pedwerydd Cynulliad
  • Yr Athro Colin Riordan – Llywydd ac Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd
  • Kevin Roberts – Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Amaeth
  • Dr Kay Swinburne ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Vaughan ASE – Aelod o Senedd Ewrop
  • Emma Watkins – Cyfarwyddwr, CBI Cymru