Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:


Ynghyd â Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, mynychais ddeunawfed Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Stirling ddydd Gwener 22 Mehefin. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Brif Weinidog Llywodraeth yr Alban ac fe’i mynychwyd gan Weinidogion blaenllaw Gweinyddiaethau eraill y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, gan gynnwys:


• An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD – Llywodraeth Iwerddon
• Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Michael Moore AS – Llywodraeth y Deyrnas Unedig
• Y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson ACD a’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr. Martin McGuinness AS ACD – Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon
• Y Prif Weinidog, y Seneddwr Ian Gorst, Llywodraeth Jersey,
• Y Prif Weinidog, y Dirprwy Peter Harwood, Llywodraeth Guernsey,
• Y Prif Weinidog, yr Anrhydeddus Allan Bell MHK o Lywodraeth Ynys Manaw.


Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn parhau i chwarae rôl unigryw a phwysig yn y gwaith o hyrwyddo, datblygu a gwella cysylltiadau rhwng y gweinyddiaethau sy’n aelodau a bod yn fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithio. Y tro hwn, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i’r Gweinyddiaethau drafod dwy brif eitem; yr economi gyda ffocws penodol ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc; ac ymagweddau adfer i fynd i’r afael â cham-drin cyffuriau ledled Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.


O ran yr economi, siaradais am yr heriau economaidd sy’n wynebu Cymru yng nghyd-destun dylanwadau ehangach o’r Deyrnas Unedig, Ardal yr Ewro, ac economïau eraill y byd a sut y mae’r ffactorau hyn wedi effeithio’n ganlyniadol ar y farchnad lafur yng Nghymru. Os ydym am weld adferiad economaidd, rhaid gwella’r cymorth a roddir i’r sector preifat. Pwysleisiais fod angen y pethau priodol yn eu lle i gynllunio ar gyfer twf economaidd, gan gynnwys grymoedd cyllidol megis grymoedd benthyca, gan fod Cymru dan anfantais yn hyn o beth ar y foment. Fodd bynnag, pwysleisiais, hefyd, y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i fusnesau yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn twf a swyddi yn y dyfodol drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru, Cronfa Buddsoddi mewn Cwmnïau Bach a Chanolig eu Maint a Chronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau. Rydym hefyd wedi targedu sectorau twf penodol gyda mynediad ychwanegol at gymorth ariannol, megis Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, gyda chronfa o £25m ar unwaith.

Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Pwysleisiodd yr adnoddau gwell ar gyfer Prentisiaethau, drwy’r rhaglenni Llwybrau at Brentisiaethau sy’n cynnig 2,000 o gyfleoedd y flwyddyn; a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar ‘alw cudd’, yn enwedig o fewn busnesau bach a chanolig eu maint drwy estyn ein Rhaglen Recriwtiaid Ifanc gyda 2,000 o lefydd ychwanegol. Bydd y rhaglen hon yn darparu cymorth ariannol i gyflogwyr i recriwtio a chefnogi prentisiaid. Amlinellodd y Dirprwy Weinidog raglen Twf Swyddi Cymru a lansiwyd ym mis Ebrill eleni ac a fydd yn creu 4,000 o gyfleoedd swyddi go iawn y flwyddyn  dros y tair blynedd nesaf. Mae’r rhaglen hon wedi’i thargedu at bobl ifanc 16 a 24 oed sy’n ddi-waith. Bydd y cyfleoedd am swyddi a grëir drwy’r rhaglen hon yn ychwanegol at weithlu presennol y busnes. Hefyd, pwysleisiodd sut y cafodd Twf Swyddi Cymru ei integreiddio gyda’n hystod o raglenni Llywodraeth Cymru i gynnig llwybrau i waith drwy hyfforddiant, cynnydd a phrentisiaethau cyn cyflogaeth. Croesawodd y cynnydd da sydd wedi’i wneud hyd yn hyn o ran cyflawni Twf Swyddi Cymru a’r lefel a’r amrywiaeth o swyddi sy’n cael eu creu gan gyflogwyr.

O ran ynni adnewyddadwy'r môr, pwysleisiais sut y mae ein harfordir 1200 cilomedr o hyd, porthladdoedd môr dwfn a’n seilwaith grid hygyrch yn golygu bod Cymru yn berffaith ar gyfer y diwydiant hwnnw. Fodd bynnag, pwysleisiais, hefyd, y sefyllfa annerbyniol lle nad oes gennym y grymoedd angenrheidiol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r diwydiant hwn yn eu cynnig i’r economi a chynaladwyedd yng Nghymru. Amlinellais Fframwaith Strategol Ynni’r Môr a’n buddsoddiad o £1m i ddeall effeithiau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol cael yr ynni ymarferol hwn o’n moroedd. Hefyd, tynnais sylw at ein hymchwil academaidd o safon fyd-eang gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel a phwysleisiais y cyfraniad sylweddol y mae’r sector carbon isel ac ynni adnewyddadwy yn ei wneud eisoes i Gymru a faint y gallai amrediad llanw’r Hafren ychwanegu at y sector hwn.

Cyhoeddwyd y prif bwyntiau a drafodwyd yn y ddeunawfed uwchgynhadledd mewn Cyd-Hysbysiad, sy’n atodedig. Caiff Uwchgynhadledd nesaf y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei gynnal gan Gymru ym mis Hydref eleni.