Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnes gadeirio cyfarfod Grŵp Rhyng-weinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 14 Medi 2020.

Trafodom yr angen am fynediad di-rwystr i nwyddau sy’n tarddu o Ogledd Iwerddon i mewn i Brydain Fawr, gan sicrhau bod nwyddau’r UE sy’n symud o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn ddarostyngedig i fesurau rheoli priodol. Cytunom ar yr angen i benderfynu ar frys sut i wahaniaethu rhwng nwyddau cymwys ac anghymwys er mwyn sicrhau mynediad di-rwystr i’r nwyddau hynny sy’n gymwys.

Trafodom ba mor barod yw’r ffin ar gyfer y trefniadau hyn. Cyflwynodd Defra bapur ar wiriadau wrth y ffin, gan gynnig cyflwyno gofynion gweinyddol o fis Ebrill 2021 ymlaen a gwiriadau wedi’u targedu sy’n seiliedig ar risg o fis Gorffennaf 2021 ymlaen. Gwnaethom i gyd gytuno ar egwyddorion y papur, fodd bynnag, pwysleisiais yr angen am fwy o drafod rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i hwyluso dull mwy cyd-gysylltiedig yn y dyfodol.

Gwnaethom hefyd drafod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y Du lle, ynghyd â Gweinidogion yr Alban, mynegais bryder mawr ynghylch y Bil a’i effaith ar ddatganoli a’r gwaith sydd wedi dechrau ar fframweithiau cyffredin. Pwysleisiais fod fframweithiau wedi’u dylunio i helpu i ddeall a rheoli gwahaniaethau rhwng y pedair gweinyddiaeth, ac felly nid oedd angen y Bil.

Gwnaethom adolygu cynnydd y rhaglen waith ar gyfer is-ddeddfwriaeth.

Mae communiqué ynghylch y cyfarfodydd i’w weld ar wefan Llywodraeth y DU. https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Hydref.