Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod Gweinidogion yr Amgylchedd Y Cyngor Prydeinig Gwyddelig ar 8 Mai yn Key Gardens.

Mynychwyd y cyfarfod gan y Dirprwy Lindsay de Sausmarez, Llywydd - Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith, Taleithiau Guernsey, o Lywodraeth Guernsey; Timmy Dooley TD, Gweinidog Gwladol yn Adran Hinsawdd, yr Amgylchedd ac Ynni gyda chyfrifoldeb arbennig dros y Môr, o Lywodraeth Iwerddon; y Gweinidog Clare Barber, MHK o Lywodraeth Ynys Manaw; y Dirprwy Steve Luce, Gweinidog yr Amgylchedd o Lywodraeth Jersey; Andrew Muir ACD, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Pam Cameron ACD, Gweinidog Iau yn y Weithrediaeth, ac Aisling Reilly ACD, Gweinidog Iau yn y Weithrediaeth, oll o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon; Dr Alasdair Allan ASA, Gweinidog Dros Dro dros Weithredu ar yr Hinsawdd o Lywodraeth yr Alban; a Mary Creagh AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol (Gweinidog Natur) o Lywodraeth y DU.

Fe wnaethom gymeradwyo'r adroddiad ar Sector Gwaith yr Amgylchedd rhwng 2020-2024. Fe wnaethom hefyd gytuno ar ailstrwythuro'r Sector Gwaith ar gyfer y dyfodol ac roeddwn yn falch ein bod ni i gyd yn cytuno y dylai'r ailstrwythuro fynd ymlaen â'r economi gylchol fel ein pwnc ffocws nesaf. Fel y gwyddoch, mae hyn yn flaenoriaeth yng Nghymru ac mae gennym lawer o waith ardderchog y gallwn adeiladu arno.

Yn olaf, fe wnaethom gytuno ar gynllun gwaith ar gyfer Sector Gwaith Rhywogaethau Goresgynnol newydd a fydd yn bwrw ymlaen â gwaith yr is-grŵp Rhywogaethau Estron Goresgynnol ac is-grŵp Tasglu y Gacynen Felyngoes.

Mae datganiad ar y cyd i'w weld yma Cyfarfod Gweinidogion yr Amgylchedd Y Cyngor Prydeinig Gwyddelig - Llundain - 8 Mai 2025 | Cyngor Prydeinig Gwyddelig