Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ar 6 Tachwedd, cadeiriais gyfarfod Gweinidogol rhithwir Sector Gwaith Blynyddoedd Cynnar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ffocws y cyfarfod oedd 'Help a Chefnogaeth i Blant Ifainc ag Anghenion Ychwanegol'.
Roedd y Dirprwy Paul Montague yn cynrychioli Llywodraeth Guernsey fel Llywydd y Pwyllgor Addysg, Chwaraeon a Diwylliant; roedd Norma Foley TD yn cynrychioli Llywodraeth Iwerddon fel y Gweinidog Plant, Anabledd a Chydraddoldeb; roedd yr Anrhydeddus Daphne Caine, MHK yn cynrychioli Llywodraeth Ynys Manaw fel y Gweinidog Addysg, Chwaraeon a Diwylliant; roedd Richard Vibert yn cynrychioli Llywodraeth Jersey fel y Gweinidog Plant a Theuluoedd, y Gweinidog Cynorthwyol dros Faterion Cartref, ac Aelod o Comité des Connétables; roedd Paul Givan yn cynrychioli Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon fel y Gweinidog Addysg, yn ogystal â Aisling Reilly, Is-weinidog; roedd Natalie Don-Innes yn cynrychioli Llywodraeth yr Alban fel Gweinidog Plant, Pobl Ifanc a'r Addewid; ac roedd Olivia Bailey AS yn cynrychioli Llywodraeth y DU fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol.
Yn y cyfarfod, nodwyd cynnydd Sector Gwaith y Blynyddoedd Cynnar hyd yma yn erbyn ei Gynllun Gwaith 2023-2026 sydd wedi canolbwyntio ar ei ddwy thema gyntaf - Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar a Phrofiad Plentyndod.
Yna trafodwyd y gwaith sy'n digwydd ar draws Aelod-weinyddiaethau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i gefnogi plant ifainc ag anghenion ychwanegol, a chroesawais y cyfle a gafodd Llywodraeth Cymru i rannu arferion gorau drwy gyflwyniad gan un o Gydlynwyr Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru am sut y gallwn adnabod a chefnogi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn effeithiol.
Amlinellais hefyd sut rydym yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i wrando ac ymateb i heriau, gyda'r nod o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant.
Yn olaf, cytunwyd bod Sector Gwaith Blynyddoedd Cynnar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ystyried ymgymryd â gwaith pellach i rannu mewnwelediad a gwybodaeth mewn perthynas ag adnabod a chefnogi plant ifainc ag anghenion ychwanegol yn gynnar. Mae Sector Gwaith Blynyddoedd Cynnar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn parhau i fod yn fforwm gwerthfawr i gyfnewid arferion da a phrofiad.
Mae cyd-ddatganiad ar gael yma: BIC Early Years Ministerial Meeting - 6 November 2025 | The British-Irish Council
