Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Gwener 26 Mehefin, roedd yn bleser gennyf gwrdd ag Arlene Foster MLA, I Gweinidog Cyllid a Phersonél Gogledd Iwerddon, i drafod ystod o faterion o gyd-fuddiant i’n gweinyddiaethau datganoledig.

Gyda’r Adolygiad o Wariant y DU ar y gweill, roedd y cyfarfod yn gyfle i ymchwilio i bryderon cyffredin, gan gynnwys diwygio lles, effaith cyni cyllidol pellach a’r angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi mwy mewn seilwaith cyfalaf i gefnogi twf a swyddi.

Ym mis Awst, byddaf yn cwrdd â’m gweinidogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban i drafod safbwynt ar y cyd ar faterion allweddol i Lywodraeth y DU cyn yr Adolygiad o Wariant.  Rwy’n ymrwymedig i weithio gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban.