Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod fy ymweliad diweddar â Mumbai, bum mewn cyfres o gyfarfodydd i drafod dyfodol cynhyrchu dur Tata yng Nghymru.

Rwyf wedi trafod yn rheolaidd gyda Tata drwy gydol y broses werthu ac wedi teithio i Mumbai i bledio achos Cymru yn uniongyrchol gydag uwch arweinwyr Tata.

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn deall nad oes modd imi fynd i fanylion am faterion sy’n sensitif yn fasnachol, ond gallaf gadarnhau i’r trafodaethau fod yn adeiladol a phwysig. Mae Tata bellach yn gwerthuso’r cynigion y mae wedi eu derbyn.

Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod Cymru yn cynhyrchu dur yn gynaliadwy a’n bod yn cynnig ein cefnogaeth lawn i unrhyw un sydd â diddordeb neu y rhai hynny sy’n rhannu’r nod hwn. Rwyf wedi pwysleisio sawl gwaith mai ein blaenoriaeth yw cadw’r cynhyrchu dur yng Nghymru o ran budd strategol y wlad gyfan, ac er budd penodol ein cymunedau cynhyrchu dur. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Rwy’n gwybod fod dyfodol gweithfeydd Tata yng Nghymru o ddiddordeb mawr i’r Aelodau ac rwy’n bwriadu cyflwyno Datganiad Llafar i greu cyfle i drafod y mater cyn gynted â phosib.