Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 07 Rhagfyr, cyfarfûm â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod y camau nesaf o ran sefydlu ariannu teg i Gymru. Nodais fod angen cytundeb ariannu rhynglywodraethol sy’n cynnig y sicrwydd y bydd y cyllid gwaelodol yn aros yn ei le am y tymor hir nes y bydd cytundeb gan y ddwy lywodraeth nad yw cyllid gwaelodol o 115 y cant o wariant cymaradwy y pen yn Lloegr bellach yn briodol. Dylai’r cytundeb hwn gynnwys methodoleg gadarn yn amlinellu sut y bydd y cyllid gwaelodol yn gweithredu a sut y caiff ei adolygu i sicrhau ei fod yn dal yn deg i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyhoeddiad yn yr Adolygiad o Wariant yn ymrwymo i sicrhau na fydd cyllid cymharol ar gyfer Llywodraeth Cymru’n syrthio o dan 115 y cant o wariant cymaradwy y pen yn Lloegr yn cael ei warantu am gyfnod yr Adolygiad o Wariant yn unig.  Nid yw’n darparu unrhyw sicrwydd hirdymor ein bod wedi mynd i’r afael â mater cydgyfeirio Barnett unwaith ac am byth.  Rwyf yn croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol - sydd wedi’i hamlygu gan y bleidlais unfrydol yn y Cynulliad ar 2 Rhagfyr 2015 - ar yr angen i adeiladu ar y cyhoeddiad ar yr Adolygiad o Wariant gyda chytundeb rhynglywodraethol hirdymor.  

Mae Llywodraeth y Du wedi cyhoeddi y bydd yn dileu’r gofyniad am refferendwm ynghylch datganoli pwerau ar gyfer trethi incwm fel y’i pennwyd yn Neddf Cymru 2014 gyda gwelliant i Fil Cymru fel rhan o gytundeb ariannu rhynglywodraethol. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth y DU i gytuno ar y fframwaith cyllidol i Gymru yn amlinellu sut y dylai’r gwrthbwysiad i’r grant bloc weithredu yn achos treth incwm a’r trethi datganoledig eraill yng Nghymru a sut y bydd ein terfyn benthyca cyfalaf yn cynyddu i adlewyrchu’r cynnydd yn y ffrwd refeniw annibynnol o drethi datganoledig.

Bydd angen cytuno ar hyn cyn i Fil Cymru gael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn nesaf.