Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, rwy'n ysgrifennu i roi gwybod ichi fy mod wedi bod mewn cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Ffeiriau Gwledig a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023.

Fi gadeiriodd y cyfarfod, a hefyd yn bresennol yr oedd: Mairi Gougeon ASP,

Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a’r Ynysoedd, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater MSP, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol, a Bioamrywiaeth yn

Llywodraeth yr Alban; Rebecca Pow AS, Gweinidog Ansawdd a Chadernid yr Amgylchedd, Mark Spencer AS, y Gweinidog Bwyd, Ffermio a Physgodfeydd, James Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, John Lamont AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol i Swyddfa'r Alban, Steve Baker AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU yn Swyddfa Gogledd Iwerddon; a Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol, DAERA yn absenoldeb gweinidogion Gogledd Iwerddon.

Agorodd y cyfarfod gyda thrafodaeth am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) sydd, ar hyn o bryd, yn mynd drwy’r Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi. Rhoddodd pob un o’r

Llywodraethau’r wybodaeth diweddaraf am sut y maent yn mynd ati i nodi ac i

gategoreiddio’r Bil, gan ganmol y ffordd gadarnhaol y mae’r gweinyddiaethau wedi

ymwneud â’i gilydd yn hynny o beth. Buont hefyd yn trafod y rhaglenni deddfwriaethol

seneddol sydd eu hangen er mwyn dargadw, diddymu neu ddiwygio eitemau unigol o ddeddfwriaeth. Wedyn, rhoddodd Llywodraeth yr Alban yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt eu Cynlluniau Dychwelyd Ernes, a chynhaliwyd trafodaeth am gais Llywodraeth yr Alban i gael ei heithrio o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU.

Wedyn, cyfeiriais at y sefyllfa sydd ohoni o ran prinder bwyd a diogelwch bwyd, gan dynnu sylw at yr angen i gydweithio ar y mater hwn, sy’n effeithio ar bob rhan o’r DU. Buom yn trafod yr effeithiau cronnol mae materion fel y rhyfel yn Wcráin a phrinder llafur yn parhau i’w cael, a sut y mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y cyflenwad bwyd.

Cytunwyd i drafod mwy ar yr eitem hon yn y Cyfarfod Rhynglywodraethol ym mis Ebrill.

Yn olaf, cyfeiriodd Llywodraeth yr Alban a minnau at y ffaith bod diffyg cynnydd ar wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth ar les anifeiliaid, gan wneud cais am ddiweddariad ysgrifenedig.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Llun 17 Ebrill.

Bydd hysbysiad am y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU. (Saesneg yn Unig)