Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 4 Awst roeddwn yn cadeirio chweched cyfarfod Tasglu Tata Steel.  Hwn oedd fy nghyfarfod cyntaf fel Cadeirydd y Tasglu.  Roedd cynrychiolaeth gref gan bawb, gan gynnwys Tata Steel, Unite ac Undebau Cymunedol a phartneriaid, sy’n dangos yr ymrwymiad parhaus ar draws sefydliadau i gefnogi’r rhai hynny yr effeithir arnynt gan yr argyfwng dur.  Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yno hefyd yn cynrychioli Llywodraeth y DU.  

Rhoddodd Tata Steel yng Nghymru adroddiad o’r perfformiad busnes sy’n parhau i ddangos gwelliant.  Mae hyn o ganlyniad i amrywiol ffactorau allanol a mewnol, ac yn arbennig ymrwymiad ac ymdrechion y gweithlu.  Rhoddodd Tata y newyddion diweddaraf ar y broses ddiswyddo a ddechreuodd ym mis Ionawr, sydd bellach bron â’i chwblhau.  Rhoddwyd diolch i’r holl asiantaethau cymorth sydd wedi bod yn rhan o’r broses.

Roedd yr Undebau Llafur hwythau yn cymeradwyo y llwyddiannau a chyfraniad y gweithlu i’r gwelliannau dros y misoedd diwethaf.  Rhoddodd yr Undebau y newyddion diweddaraf i’r Tasglu ar eu sefyllfa bresennol, yn enwedig yr ansicrwydd o ran y broses werthu, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i’r gwaith.

Rhoddodd y ffrydiau gwaith y newyddion diweddaraf ar y datblygiadau.

Mae’r cymorth i weithwyr Tata drwy’r ffrwd gwaith Hyfforddiant a Sgiliau wedi mynd rhagddo ac mae sesiynau cynghori wedi bod ar gael i weithwyr yn y gadwyn gyflenwi.  Mae’r cymorth wedi ei ddarapu gan ystod eang o sefydliadau gan gynnwys y  Money Advice Service, UK Steel Enterprise, sefydliadau gwirfoddol lleol a CThEM.  Mae Canolfan Byd Gwaith wedi bod ar y safle tan ddiwedd Gorffennaf.  Mae Gyrfa Cymru wedi darparu cyflwyniadau gyda phartneriaid  ac wedi gweithio’n unigol gyda nifer o weithwyr Tata a rhai o is-gontractwyr Tata.  Mae’r Undebau wedi rhoi canmoliaeth gref i’r cymorth hyblyg a sensitif sydd wedi’i ddarparu hyd yma gan bob asiantaeth.

Cafwyd y newyddion diweddaraf ar waith y Gadwyn Busnes a Chyflenwi.  Trwy Busnes Cymru, mae 30 o gwmnïau wedi derbyn cymorth penodol ac mae 24 o gwmnïau wedi derbyn, neu yn mynd i dderbyn y cymorth hwnnw, tra bod rhai cwmnïau wedi gofyn i’r cymorth sy’n cael ei gynnig gael ei ohirio oherwydd eu hamgylchiadau a heriau busnes penodol.  Bydd y ffrwd gwaith yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac mae’r cymorth gan Busnes Cymru yn parhau i fod ar gael ar gyfer busnesau sy’n chwilio am gymorth.  

Mae’r ffrwd gwaith iechyd, o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn datblygu rhaglen o waith i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles staff a gweithwyr Tata yn y gadwyn gyflenwi.  Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar weithredu yn y gymuned, sy’n cynnwys anghenion aelodau ehangach y teulu, gan gynnwys y plant.  Mae taflen wybodaeth wedi ei chynhyrchu i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael ac mae’r ffrwd waith yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cyrraedd pawb sydd ei hangen.  Mae diolch ynddi i’r Undebau, Tata, sefydliadau gwirfoddol a’r awdurdod lleol am eu cymorth. 

Cytunodd y Tasglu y byddai’r ffrwd waith Sgiliau a Hyfforddiant a ffrwd waith Busnes a’r Gadwyn Gyflenwi yn cael eu cyfuno i barhau’r gweithredu ar y cyd rhwng sefydliadau i gefnogi gweithwyr Tata a’r rhai hynny sydd yn y gadwyn gyflenwi.  Mae Roger Evans MBE, wedi cytuno i Gadeirio’r ffrwd waith newydd, yn ogystal â gweithredu fel Dirprwy Gadeirydd Prif Dasglu Tata.  Bydd y ffrwd waith hon a’r ffrwd waith Iechyd yn cydweithio’n agos. 

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhoi sylwadau ar y berthynas weithio gref rhwng pawb hyd yma.  Dywedodd wrth y Tasglu bod Llywodraeth y DU yn parhau i gysylltu â phob buddsoddwr posibl i ddatblygu cymorth posibl i’r gwaith.  Dywedodd wrth y Tasglu bod yr ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar bensiynau, ddaeth i ben ar 24 Mehefin, yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd. 

Rhoddais y newyddion diweddaraf i’r Tasglu ar ddatblygiadau Ardal Fenter Glannau Port Talbot.  Mae’r Bwrdd yn gweithio gyda Dinas-ranbarth Bae Abertawe, prifysgolion a chanolfannau ymchwil, Busnes Cymru ac awdurdodau lleol a chyflogwyr amlwg i gefnogi busnesau lleol.

Ers fy mhenodiad, rwyf wedi ymweld â rhan fwyaf o’r gweithfeydd dur yng Nghymru, gan dreulio amser yn ddiweddar yn ymweld â safleoedd Tata yn Shotton, Llanelli, Casnewydd a Phort Talbot. Rwy’n bwriad cadw mewn cysylltiad agos â phob un o’r gweithfeydd ledled Cymru yn ogystal â gweithfeydd ehangach y diwydiant dur yng Nghymru.

Mae’r cyfnod hwn yn parhau i fod yn ansicr iawn i nifer o weithwyr dur, eu teuluoedd a chymunedau lleol ledled Cymru. Mae’n hollbwysig nad yw’r datblygiadau sydd wedi eu gweld yn y misoedd diwethaf yn cael eu tarfu gan newid staff yn San Steffan.  Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar bensiynau ac ynni, sy’n hanfodol i helpu i sicrhau bod y diwydiant dur yng Nghymru mewn sefyllfa gynaliadwy yn yr hirdymor.

Byddaf yn parhau i hysbysu’r Aelodau  wrth i faterion ddatblygu gyda’r gwaith hwn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.