Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy'n hysbysu'r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 11 Medi 2023.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Hefyd yn bresennol roedd Angus Robertson MSP, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant. Roedd uwch swyddog o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol fel arsylwr. 

Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfer yr ystod o gyfarfodydd rhwng y DU a'r UE o fewn fframwaith y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a drefnwyd ar gyfer y misoedd sy'n weddill o 2023 a chyfarfod nesaf y DU-UE o’r Cyd-bwyllgor Cytundeb Ymadael (WAJC), y disgwylir iddo gael ei gynnal ddechrau 2024.

Roedd swyddogion wedi codi pryderon yn gynharach ar y rhybudd byr a roddwyd ar gyfer cyfarfodydd blaenorol a rydym yn falch fod hyn wedi'i ystyried wrth bennu dyddiad ar gyfer y cyfarfod hwn.

Rhoddodd y cyfarfod gyfle defnyddiol i mi amlinellu nifer o faterion pwysig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w datblygu yn ystod y misoedd nesaf. Er enghraifft: 

  • Ein pryderon cyffredinol o ran y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA) presennol a bod angen ei wneud mor effeithiol a phosibl.
  • Gwerthfawrogiad y bydd y DU nawr yn dychwelyd i raglenni Horizon Europe a Copernicus.
  • Pryder bod  Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â dychwelyd at Euratom a'r dewisiadau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn.
  • Awydd Llywodraeth Cymru i weld datrysiad cynnar i'r problemau'n gysylltiedig â'r Rheolau Tarddiad ar gyfer cerbydau trydan.
  • Ein pryderon ynghylch allforio molysgiaid dwygragennog byw.
  • Yr angen i sicrhau masnach effeithiol mewn tatws hadyd.
  • Yr angen i gynnal perthnasoedd effeithiol yn rhyngwladol i gadw gwytnwch yn ein system ynni trwy'r TCA i adeiladu sylfaen sefydlog ar gyfer mewnforio ac allforio ynni.
  • Cysylltiad arbennig Cymru gyda Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon yr UE (CBAM) oherwydd ei diwydiant dur mawr.
  • Pryder parhaus nad yw Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi cael eu gwahodd eto i fod yn rhan o ddirprwyaeth y DU ar gyfer cyfarfodydd WAJC.

Bydd cyfarfod dilynol y Cyd-bwyllgor i gael ei drefnu.

Nid yw'r cyfarfod nesaf o'r IMG ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE wedi'i drefnu eto, ac nid oes unrhyw agenda wedi'i chytuno hyd yma.