Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mynychais i gyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 29 Gorffennaf.

Gwnaethom adolygu’r cynnydd ar y rhaglen waith ar is-ddeddfwriaeth, a phwysleisiais ddisgwyliad y Senedd y byddai digon o amser i ystyried unrhyw ddeddfwriaeth a threfniadau arfaethedig yn llawn.  

Gwnaethom hefyd drafod paratoi’r ffin a, chan fod hyn yn cynnwys cymhwysedd datganoledig a chymhwysedd a gedwir yn ôl, gwnaethom geisio sicrwydd ynghylch y gwahanol gyfrifoldebau, cyllid a threfniadau llywodraethu mewn perthynas â’r gwaith hwn.

Fe’i gwneuthum yn glir nad oedd angen i Lywodraeth y DU ymgynghori ar frys ar y cynigion ar gyfer deddfwriaeth mewn perthynas â marchnad fewnol y DU. Mynnais fod y fframweithiau wedi cael eu llunio i helpu i ddeall a rheoli dargyfeiredd rhwng y pedair gweinyddiaeth. Yn wir, yn y cyfarfod hwn cytunodd y grŵp ar ddull newydd ar gyfer creu fersiwn derfynol o’r fframweithiau, i sicrhau eu bod i gyd wedi cyrraedd safon lle y gellir eu defnyddio, dros dro o leiaf, erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae cyfathrebiad mewn perthynas â’r cyfarfod hwn ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 14 Medi.

Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad i roi diweddariad i weinidogion. Byddaf yn hapus i wneud datganiad arall ar ôl y toriad os bydd hynny’n ddefnyddiol i aelodau