Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy'n hysbysu'r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 11Medi 2023. 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Hefyd yn bresennol roedd Gweinidogion o'r Alban a Gogledd Iwerddon: Angus Robertson ASA, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant; Michelle O'Neill, MLA, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon; ac Emma Little-Pengelly, MLA, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. 

Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfer cyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth y DU-UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad a Chyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael (WAJC), y disgwylir i'r ddau gael eu cynnal yn gynnar yn 2024. 

Rydym yn falch bod y gwaith o baratoi'r cyfarfodydd hyn wedi gwella.

Rhoddodd y cyfarfod gyfle defnyddiol i mi amlinellu nifer o faterion pwysig sydd gan Lywodraeth Cymru i'w datblygu yn ystod y misoedd nesaf. 

  • Ein dymuniad i Lywodraeth y DU gynnwys y Llywodraethau Datganoledig mewn cyfarfodydd a'u paratoi i elwa i'r eithaf ar effeithiolrwydd gweithrediad y Cytundeb Cydweithredu Masnach (TCA). 
  • Yr angen am gytundeb ar gydnabyddiaeth ar y cyd ar asesiadau cydymffurfio.
  • Pwysigrwydd cadw trefniadau Digonolrwydd Data'r UE. 
  • Ein pryderon parhaus ar reolau mewnforio'r UE sy'n effeithio ar allforio molysgiaid dwygragennog byw. 

Cafodd y Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru ar gyfer y Grwp Rhyngweinidogol hwn ei gymeradwyo yn y cyfarfod. 

Nid yw'r cyfarfod nesaf o'r Grwp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a'r UE wedi'i drefnu eto, ac nid oes unrhyw agenda wedi'i chymeradwyo hyd yma.