Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol, rwy’n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar 26 Mehefin. Nid oeddwn yn gallu rhoi rhybudd ymlaen llaw o’r cyfarfod gan ei fod wedi cael ei alw ar fyr rybudd gan Lywodraeth y DU.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Roedd Angus Robertson ASA, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. Roedd uwch swyddog o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol fel arsylwr.

Cynhaliwyd y cyfarfod i baratoi ar gyfer cyfarfodydd dilynol rhwng y DU a’r UE o Gyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, pan nad oeddwn yn bresennol.

Fe wnes i’r prif bwyntiau canlynol yng nghyfarfod mis Mehefin, a gafodd eu nodi:

  • dylid rhoi mwy o rybudd ar gyfer cyfarfodydd y grŵp Rhyngweinidogol hwn, yn unol â thelerau’r Adolygiad Rhynglywodraethol.
  • roedd ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion rhoi Fframwaith Windsor ar waith yn parhau.
  • y gobaith yw y bydd cynnydd gyda’r UE ar Fframwaith Windsor yn datrys materion allweddol fel cysylltiad y DU â Horizon Europe.
  • o ran hawliau dinasyddion, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu ymgysylltiad cynharach, a mwy sylweddol, gan y Swyddfa Gartref.

Mabwysiadodd cyfarfod y Cyd-bwyllgor dilynol ddau benderfyniad ffurfiol ar fesurau glanweithiol a ffytoiechydol (bwydydd amaeth) a meddyginiaethau i roi Fframwaith Windsor ar waith. Mabwysiadodd benderfyniad hefyd i addasu agweddau ar gydlynu mecanweithiau nawdd cymdeithasol. Mae’r manylion wedi’u nodi yn y Datganiad ar y Cyd rhwng y DU a’r UE yma: Joint statement on the Withdrawal Agreement Joint Committee meeting, 3 July 2023 (Saesneg yn Unig)

Mae cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadaurhwng y DU a’r UE wedi’i drefnu ar gyfer 11 Medi, a fydd yn cael ei gadeirio gan Leo Docherty AS, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Nid oes agenda ffurfiol wedi’i gosod eto, ond rwy’n disgwyl iddi gynnwys trafodaeth ar weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a’r Cytundeb Ymadael, cyn cyfres o wahanol gyfarfodydd rhwng y DU a’r UE a fydd yn cael eu trefnu ar gyfer gweddill 2023.