Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un o egwyddorion sylfaenol democratiaeth leol yw bod gan bob person yr hawl a'r cyfle i fod yn rhan o'r strwythurau a'r prosesau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd newydd a gwahanol i unigolion gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau tra'n galluogi trefniadau mwy hyblyg i awdurdodau lleol weithredu mewn gwahanol ffyrdd. Gwn fod llawer o awdurdodau lleol eisoes yn gwneud defnydd rhagorol o dechnoleg ddigidol wrth ddarparu gwasanaethau.

Er hynny, mae cyfle hefyd i fanteisio ar y defnydd o ddulliau ac offer digidol i gefnogi mwy o ymgysylltu mewn prosesau democrataidd o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd a chynnwys dinasyddion. Mae pandemig Covid-19 wedi dangos pa mor bwysig ydyw inni groesawu'r dull hwn a thrawsnewid democratiaeth a chreu amgylchedd lle mae  rhwystrau i gyfranogiad yn cael eu dileu, bod atebion yn cael eu datblygu a manteision yn cael eu gwireddu.

Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu'r anawsterau o ran dibynnu ar ffyrdd traddodiadol o weithio o fewn llywodraeth leol a'r cyfyngiadau sy'n deillio o'r diffyg rhyngweithio digidol rhwng etholwyr a'r rhai a etholwyd i'w cynrychioli.

Mae egwyddorion democratiaeth, tryloywder ac atebolrwydd i ddinasyddion Cymru wrth wraidd Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021). Mae nifer o ddarpariaethau sy'n sylfaenol i fwy o dryloywder rhwng cynghorau lleol a chymunedau gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad.

Mae'r Awdurdodau Lleol wedi gwneud ymdrechion sylweddol i alluogi cyfarfodydd i gael eu cynnal drwy gydol y pandemig hwn.  Mae hyn wedi cynnwys darparu sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth i sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigon da i fynd i mewn i fyd a oedd, i lawer, yn fyd gwahanol iawn.  Llwyddodd rhai cynghorau i groesawu cyfarfodydd aml-leoliad yn gyflymach nag eraill.  Fy nisgwyliad i erioed yw y dylai'r mwyafrif o gyfarfodydd arferol ddigwydd o bell yn ystod cyfyngiadau'r pandemig ac mewn llawer o achosion unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi. Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur na ellir ac na ddylid tanbrisio'r heriau y mae angen i swyddogion ac aelodau eu goresgyn er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal.  Mae'r cyfarfodydd wedi galluogi busnesau i barhau mewn ffordd gyfreithiol a diogel; gan ddangos pwysigrwydd llywodraethiant da, atebolrwydd cryf, cymesuredd a hyblygrwydd. 

Drwy gydol y pandemig mae nifer ohonoch wedi codi pryderon am nifer a math y cyfarfodydd cyngor sydd wedi bod yn digwydd. Yn ystod mis Ebrill a mis Medi 2020, cynhaliodd fy swyddogion ddadansoddiad o gyfarfodydd yr awdurdodau lleol sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Mae'r wybodaeth hon ynghlwm wrth y datganiad hwn (Atodiad A). Ers hynny mae nifer a math y cyfarfodydd a gynhaliwyd wedi parhau i gynyddu ledled Cymru.  

Ochr yn ochr â'r ymdrechion a wnaed gan yr awdurdodau lleol, mae rhai materion y mae angen mynd i'r afael â hwy er mwyn galluogi cynghorau i barhau i sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl wrth wneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd.

Fel rhan o'r dyraniadau a wnaed o becyn Cronfeydd Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Ailgreu, roedd £700,000 ar gael i gefnogi'r gwaith o weithredu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  O hyn, datblygwyd Cronfa Democratiaeth Ddigidol o £500,000 i gefnogi trawsnewid democratiaeth leol yn ddigidol.   

Daeth cyfanswm o 52 o geisiadau gwerth £1,062,622.74 i law oddi wrth   21 Awdurdod Lleol.      

Rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o geisiadau gan gynnwys:  

  • Uwchraddio ac ailwampio  siambrau ac ystafelloedd cyfarfod y cyngor.  
  • Offer i alluogi cyfarfodydd hybrid i gael eu cynnal er mwyn i gynghorwyr fod yn fwy effeithlon wrth weithio'n rhithwir, rhoi meddalwedd hygyrchedd ar waith a thrwyddedau ychwanegol i gefnogi fideo-gynadledda.
  • Ymchwil i sut yr hoffai pobl ifanc 16 – 25 oed gael eu cynnwys yn y broses ddemocrataidd;    prynu caledwedd i gynghorwyr fod yn fwy effeithlon wrth weithio yn rhithwir a rhoi  meddalwedd hygyrchedd ar waith.
  • Datblygu ap i hwyluso pleidleisio aml-leoliad mewn cyfarfodydd.
  • Datblygu gofod digidol lle y gall cynghorau a'r cyhoedd gyfnewid syniadau.
  • Cydweithio ar gyfer bwrw ymlaen â phrosiectau cyfathrebu a hyfforddi