Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bum mewn dau gyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ym mis Tachwedd, un ar ôl y llall.  Cynhaliwyd y cyntaf ar 2 Tachwedd (wedi’i ohirio ers mis Hydref) a’r ail ar 16 Tachwedd.

Yn y ddau gyfarfod, gwnaethom ni drafod arian cyfatebol yr UE, yn enwedig yr arian sy’n cymryd lle taliadau’r PAC sy’n is na’r lefel yr oedd Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn ei disgwyl. Nodais yn glir fod hyn yn annerbyniol – byddai Cymru mewn sefyllfa lawer yn waeth yn sgil ymadael â’r UE, ac roedd y dull yr oedd Trysorlys Ei Mawrhydi yn ei weithredu yn cael effaith anghymesur ar Gymru. Gwnes hefyd ailbwysleisio fy siomedigaeth ynghylch y ffaith nad oedd cynrychiolaeth ddigonol o Drysorlys Ei Mawrhydi yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn. Rwyf wedi codi’r mater hwn sawl gwaith.

Gwnaethom gytuno ar yr amserlen ar gyfer cwblhau’n derfynol y fframweithiau dros dro er mwyn sicrhau y byddant yn barod erbyn diwedd y Cyfnod Pontio.

Gwnaethom ni drafod agweddau eraill ar y paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.  Cytunon ni i barhau i weithio gyda’n gilydd ar ddiogelu cyflenwadau bwyd, gan barhau â’r gwaith a wnaed ar hyn yn ystod misoedd cyntaf argyfwng COVID-19.

Mynegwyd pryderon oherwydd diffyg eglurder Protocol Gogledd Iwerddon a’r archwiliadau ar y ffin, yn enwedig o ran prinder pobl ledled Prydain Fawr sy’n gallu llenwi Tystysgrifau Iechyd Allforio. Codais inne bryderon ynghylch y ffaith bod milfeddygon yn brysur â ffliw’r adar a bod Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn brysur gyda gwaith Covid gan olygu mwy byth o dreth ar staff y maes hwn.

Cawsom addewidion gan Defra y byddai yna systemau TG yn eu lle, neu o leiaf cynlluniau wrth gefn, yn lle systemau’r UE fel TRACES ac EU REACH.

Ymhlith y pynciau eraill a godwyd oedd ein pryderon am yr anawsterau fydd yn wynebu lorïau archfarchnadoedd a busnesau eraill wrth gario nwyddau i Ogledd Iwerddon o Brydain a phryderon ynghylch y cymhlethdod a’r baich sydd ynghlwm wrth gario cynnyrch i Ogledd Iwerddon ar gyfer ei brosesu ac wedyn yn ôl i Brydain ar gyfer ei werthu.

Ailadroddais bryderon busnesau sy’n dal yn ansicr ynghylch ar gyfer beth yn union y dylen nhw baratoi.

Mae hysbysiadau ynghylch cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU. https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.

Cynhelir cyfarfod olaf 2020 ar 7 Rhagfyr.