Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf am amlinellu’r camau rwyf wedi’u cymryd i wella'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer diogelu ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen sy'n gofalu am gleifion lle mae COVID-19 wedi ei dybio neu wedi ei gadarnhau. 

Rydym mewn sefyllfa sy’n newid yn gyflym wrth i ni symud o ymdrechion i gynnwys ‘haint o ganlyniad uchel’ i’r angen i oedi trosglwyddiad cymunedol o’r pandemig COVID-19. Mae’r datblygiad hwn wedi creu’r angen am ganllawiau diwygiedig newydd ar Gyfarpar Diogelu Personol, rhai sydd wedi cael eu cytuno ar draws holl wledydd y DU ac sydd yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn rhannu'r un ddealltwriaeth o'r canllawiau hyn a'n bod yn caffael ac yn darparu y Cyfarpar Diogelu Personol sydd ei angen ar ein staff er mwyn eu diogelu.

Er mwyn cefnogi’r defnydd o’r cyfarpar hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu cyngor ar atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau gofal iechyd ac mae cyngor ar ddefnyddio offer diogelu personol yn gywir wedi’i roi hefyd i grwpiau penodol o weithwyr gofal iechyd.

Rhaid i mi bwysleisio pwysigrwydd dilyn y canllawiau er mwyn diogelu staff a hefyd i sicrhau bod y Cyfarpar Diogelu Personol priodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob lleoliad gofal iechyd.

Gadewch i mi ei gwneud yn eglur unwaith eto bod yr offer diogelu personol hwn ar gyfer staff rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol wrth iddynt ddelio â chleifion sydd wedi’u cadarnhau neu eu hamau o fod yn glaf i COVID-19.

Gan droi nawr at rai mesurau penodol rwyf wedi awdurdodi:

  1. Mae Cyfarpar Diogelu Personol o’r stoc pandemig wedi cael ei ryddhau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac i’r sector gofal cymdeithasol i atgyfnerthu llwybrau cyflenwi rheolaidd y GIG sydd wedi dod o dan bwysau sylweddol.
  1. Mae Byrddau Iechyd wedi parhau i allu defnyddio cyflenwadau drwy’r Cydwasanaethau. Fodd bynnag, o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn y galw am fygydau wyneb gwrth-hylif Math 11 R ac anadlyddion FFP3, rwyf wedi awdurdodi cynnydd sylweddol o Gyfarpar Diogelu Personol i’r 7 Bwrdd Iechyd, i’r gwasanaeth ambiwlans Cymru ac i Felindre.
  1. Rwy’n gwybod nad yw’n arferol i feddygon teulu ddal stociau mawr o Gyfarpar Diogelu Personol yn eu clinigau oni bai am ar gyfer busnes cyffredin. Dyna pam yr wyf hefyd wedi awdurdodi dosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol (masgiau wyneb, menig a ffedogau) i bob un o’r 640 clinig meddygon teulu a’r 40 o wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yng Nghymru.
  1. Ers gwneud y dosbarthiad cyntaf hwnnw i feddygon teulu, mae’r canllawiau i feddygon teulu wedi newid ac erbyn hyn mae angen i feddygon teulu wisgo cyfarpar diogelwch llygaid wrth ymdrin â chleifion mewn achosion lle mae COVID-19 wedi ei amau neu ei gadarnhau. Felly rwyf wedi awdurdodi ail ddosbarthiad o Gyfarpar Diogelu Personol i bob clinig meddygon teulu, a bydd hynny’n digwydd yr wythnos hon.
  1. Yn aml, fferyllfeydd yw'r pwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n chwilio am gyngor ar driniaethau cyn mynd at eu meddyg teulu. Roedd yn hanfodol ein bod yn cymryd camau i ddiogelu’r gweithwyr gofal iechyd rheng flaen allweddol hyn sy’n delio bob dydd â phobl a allai fod yn sâl. Rhoddais ganiatâd i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i bob fferyllfa yng Nghymru a bydd pob un o’r 715 fferyllfa wedi derbyn yr offer hwn.
  1. Mae gan ofal cymdeithasol rôl hanfodol i’w chwarae yn ein hymateb i COVID-19. Rwyf wedi awdurdodi bod ddarparwyr gofal cymdeithasol hefyd yn derbyn Cyfarpar Diogelu Personol. Mae Byrddau Iechyd wedi bod yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol er mwyn cefnogi canolfannau gofal sy'n ymdrin ag achosion lle mae COVID-19 wedi’i dybio neu ei gadarnhau. Yr wythnos hon byddwn yn ehangu’r trefniadau hynny drwy weithredu cynllun wrth gefn i alluogi bod y sector gofal cymdeithasol yn cael gafael ar Gyfarpar Diogelu Personol, a hynny drwy Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdodau lleol. Hefyd bydd trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i fonitro'r defnydd o Gyfarpar Diogelu Personol ac i ychwanegu at y cyflenwadau hyn yn ôl yr angen.

Rwy’n sylweddoli fod yna broblemau o ran offer diogelu personol a chyflenwadau gofal iechyd, ac y bydd y rhain yn parhau. Hoffwn wneud tri phwynt pellach:

  1. Mae’r amserlen ail-gyflenwi mewn perthynas â rhai o'n Cyfarpar Diogelu Personol yn ansicr. Felly, rhaid inni ddefnyddio'r stoc sydd gennym yn effeithlon ac yn briodol nes bod ailgyflenwadau yn dod yn fwy sicr.  Mae gennym grŵp gwrth-fesurau iechyd ar waith, gan gynnwys Cydwasanaethau sy'n rhwydweithio ar lefel y DU i sicrhau bod y cyflenwadau hanfodol hyn yn parhau i gael eu defnyddio.
  1. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod y mynediad i’r stoc Cyfarpar Diogelu Personol hwn yn cael ei gyfyngu at ddefnydd ein staff gofal iechyd rheng flaen. Mae angen sicrhau bod gan y staff hynny y canllawiau priodol ar reoli heintiau er mwyn darparu’r diogelwch personol sy’n sail i ddefnyddio’r Cyfarpar Diogelu Personol.  Pan fo cyrff gwirfoddol yn helpu'r GIG neu’r gwasanaethau cymdeithasol i ofalu am gleifion lle mae COVID-19 wedi ei amau neu ei gadarnhau, dylai’r cyrff hynny allu cael gafael ar y Cyfarpar Diogelu Personol priodol drwy gysylltu â’r GIG neu’r sefydliad awdurdod lleol y maent yn cynorthwyo.
  1. Yn olaf, i ddarparu sicrwydd a chymorth i’n sefydliadau gofal iechyd, rwyf wedi gofyn fod llinell ffôn gymorth a system gymorth e-bost yn cael eu darparu i Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio’r rhain mewn argyfwng lle amharwyd ar gyflenwadau Cyfarpar Diogelu Personol neu lle bu ymchwydd nas cynlluniwyd ac nas rhagwelwyd o ran ei ddefnyddio. Ni ddylai fod angen y llinell hon ond bydd yn cael ei rhoi ar waith 7 diwrnod yr wythnos.