Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r Cyfeiriad Strategol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG), sy'n nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau'r ddarpariaeth AHG yng Nghymru.
Mae dysgu galwedigaethol yn cefnogi dysgwyr gydol oes – gan gynnwys cyn-16, Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion. Credwn y dylai pawb gael y cyfle i fanteisio ar lwybrau galwedigaethol a'u cwblhau, i ennill sgiliau newydd, gan gynnwys sgiliau lefel uwch, ac i gyfrannu at economi gadarn a chynaliadwy. Ein gweledigaeth yw cael system lle mae’r llwybrau hyn yn weladwy, yn cael eu deall a'u gwerthfawrogi. Yn rhy aml, nid yw llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd yn cael eu hystyried yn gyfartal; mewn gwirionedd, mae'r naill a'r llall yn cynnig dilyniant clir i ddysgu ar lefel uwch, uwchsgilio a chyflogaeth.
Mae'r ddogfen yn nodi’r pum blaenoriaeth genedlaethol rhyng-ddibynnol a ganlyn ar gyfer AHG. Mae pob blaenoriaeth yn amlinellu'r heriau allweddol, yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid – gan gynnwys Medr a Cymwysterau Cymru – ac yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol i gyflawni'n huchelgeisiau cyffredin.
• Blaenoriaeth Genedlaethol Un: Tyfu ein Heconomi
I sbarduno system AHG sy’n barod ar gyfer y dyfodol, ac sy’n cyflenwi dysgwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer marchnad lafur sy’n datblygu’n gyflym, gan gryfhau cynhyrchiant, cystadleurwydd a thwf economaidd yn uniongyrchol. Yn unol â Chenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru a sectorau â blaenoriaeth Cymru, dylem geisio grymuso unigolion i adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach drwy dwf cynhwysol, arloesedd a gwydnwch.
• Blaenoriaeth Genedlaethol Dau: Gwneud Pethau’n Gliriach
I wneud llwybrau AHG yn fwy clir drwy gael gwared ar rwystrau sy’n cyfyngu ar fynediad dysgwyr at gyngor ac arweiniad diduedd, gan alluogi dewisiadau hyderus ar sail gwybodaeth, a hybu cydraddoldeb rhwng llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd.
• Blaenoriaeth Genedlaethol Tri: Cymryd Rhan a Chamu Ymlaen
I helpu dysgwyr o bob oed – ble bynnag maen nhw’n byw a beth bynnag fo’u cefndir – i ddatblygu’r hyder sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn y sector addysg drydyddol a thu hwnt, a chamu ymlaen drwy’r sector hwnnw.
• Blaenoriaeth Genedlaethol Pedwar: Partneriaethau Cryf
I gefnogi partneriaethau cryf rhwng awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chyflogwyr. Dylai cydweithio a phartneriaeth strategol roi anghenion dysgwyr wrth galon gwaith cynllunio a darparu.
• Blaenoriaeth Genedlaethol Pump: Cefnogi Addysgwyr a Darparwyr Hyfforddiant
I sicrhau bod addysgwyr a darparwyr hyfforddiant yn cael cyfle i uwchsgilio yn unol â gofynion newidiol y gweithlu ac anghenion sgiliau yn y dyfodol i alluogi dysgwyr galwedigaethol i ddatblygu’r wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol diweddaraf.
Mae'r blaenoriaethau cenedlaethol hyn hefyd yn cefnogi nod Cymraeg 2050 o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Drwy wreiddio darpariaeth Gymraeg ar draws llwybrau galwedigaethol, bydd cyfle i ddysgwyr ddysgu a gweithio yn ddwyieithog, gan helpu i sicrhau system gynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwlad ddwyieithog.
Mae AHG yn rhan annatod o sector trydyddol ehangach Cymru. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, rydym wedi nodi pum her bwysig sy'n wynebu'r sector ac, ym mis Ionawr, rydym wedi cyhoeddi papur tystiolaeth manwl a lansio Galwad am Gyflwyniadau, a ddaw i ben ar 27 Mawrth. Mae'r Cyfeiriad Strategol ar gyfer AHG yn ategu'r broses hon a bydd yn elfen allweddol o'r adolygiad ehangach hwn o addysg drydyddol. Gyda'i gilydd, bydd y dystiolaeth hon yn cynnig darlun cliriach o'r pwysau a'r cyfleoedd ar draws y system, gan helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol.
Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ganfyddiadau ei ymchwiliad i lwybrau i addysg a hyfforddiant ôl-16. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth gyffredinol ar gyfer addysg ôl-16 sy’n rhoi sylw i lwybrau academaidd a llwybrau galwedigaethol.
Fel y nodir yn ymateb Llywodraeth Cymru, bydd y penderfyniad i lunio strategaeth drydyddol eang neu strategaeth AHG benodol yn cael ei lywio gan ganlyniadau’r Alwad am Gyflwyniadau, ond mae’r Cyfeiriad Strategol hwn ar gyfer AHG yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith hwnnw.
Er mwyn cyflawni'r Cyfeiriad Strategol ar gyfer AHG, mae hi wedi bod yn ofynnol cydlynu'n ofalus ar draws pob un o'n pedwar portffolio Gweinidogol, a bydd angen parhau i wneud hynny. Trwy ein Bwrdd Gweinidogol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, rydym gyda'n gilydd wedi ystyried y materion strategol a thrawsbynciol sy'n sail i'r ddogfen hon.
Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'n grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, ac yn ehangach gyda'r sector, gan gynnwys cyrff sy'n cynrychioli cyflogwyr a'r undebau llafur. Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth lywio a llunio'r strategaeth hon. Estynnwn ein diolch diffuant i'r aelodau, ac i'r holl unigolion a'r sefydliadau y mae eu harbenigedd a'u dealltwriaeth wedi siapio'r gwaith hwn. Mae eu cyfraniadau wedi sicrhau bod ein dull gweithredu yn adlewyrchu anghenion a dyheadau amrywiol dysgwyr, y sector, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru.
Gyda'n gilydd, gallwn greu gweithlu medrus, hyderus a ffyniannus, sy'n barod i wynebu heriau a chyfleoedd economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym.
