Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi dyfarniadau grant gwerth £4.5m dros y tair blynedd nesaf i gefnogi'r gwaith o gyflawni nodau a gweithredoedd diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a'n hymrwymiadau cysylltiedig ar gyfer y Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio.  Rwy'n ddiolchgar i‘r Aelod Dynodedig Plaid Cymru am y cymorth a’r cyfraniad wrth inni ddatblygu’r gwaith hanfodol bwysig hwn.

I ddileu hiliaeth sefydliadol a systematig, rhaid inni gydweithio i sicrhau newid. 

Rwyf wedi dyfarnu ychydig dros £1.67 miliwn i'n cyrff diwylliannol a chwaraeon hyd braich a thros £2.8 miliwn i 22 o sefydliadau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon rhanbarthol, cenedlaethol neu annibynnol ledled Cymru.  Mae hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad a wnes i y flwyddyn ariannol ddiwethaf o bron i £350,000 i ddechrau'r gwaith paratoi gyda sefydliadau gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Race Council Cymru.

Mae pob un o’r prosiectau sy'n derbyn cyllid yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu, gan arddangos ein hymrwymiad i sicrhau bod profiad byw yn ganolog i bolisïau, datblygu a darparu gwasanaethau. 

Mae angen i'n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Rhaid i'n diwylliant, ein treftadaeth a'n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu'r hanes a'r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i'r gymdeithas Gymreig.

Bydd Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chwaraeon Cymru yn defnyddio'r arian i adeiladu ar raglenni gweithgareddau presennol a newydd, gan gyflymu eu gwaith ar wrth-hiliaeth ar lefel genedlaethol. 

Bydd cyllid i Chwaraeon Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu a darparu hyfforddiant gwrth-hiliol dros gyfnod o dair blynedd.  Bydd yr arian i'r Llyfrgell Genedlaethol yn cefnogi sawl prosiect gan gynnwys 'Cymunedau Cymru', sy’n adrodd hanesion drwy lens y bobl a symudodd i Gymru.  Bydd yr arian i Amgueddfa Cymru yn gweld rhagor o raglenni a digwyddiadau diwylliannol wedi'u cyd-ddylunio gyda sefydliadau, unigolion ac artistiaid yn y gymuned. 

Bydd arian i Gyngor Celfyddydau Cymru yn galluogi penodi mwy o ymarferwyr creadigol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bydd yr arian i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn datblygu prosiect 'Lleoedd rydyn ni'n eu Cofio' sy'n cofnodi treftadaeth cymunedau Asiaidd Cymru yng Nghymru

Y 22 sefydliad arall sy'n derbyn arian yw:

• Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

• Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

• Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol

• Beyond the Border Cymru

• Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown

• Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

• EatSleep

• GEM Cymru (Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd)

• Archifau Morgannwg

• Canolfan Gôl

• Dr Marion Gywn

• Hijinx

• KIRAN Cymru

• Urdd Gwneuthurwyr Cymru

• Treftadaeth Monlife

• Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru

• Cyngor Hil Cymru

• Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru

• Tenis Cymru

• Theatr Genedlaethol Cymru

• Tŷ Pawb a Chydlyniant Cymunedol

• Women Connect First

Yr wythnos ddiwethaf, bûm yn ymweld â dau brosiect - Treftadaeth Monlife a Tŷ Pawb - i glywed sut y byddant yn defnyddio'r arian a'r gwahaniaeth fydd yn ei wneud.