Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i gyhoeddi ein bod wedi penodi Diverse Cymru i reoli'r Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau ar Lawr Gwlad ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun grant yn agor ar gyfer ceisiadau yng nghanol mis Awst am chwe wythnos. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid o hyd at £455,000 ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i alluogi pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gael mynediad a chyfranogiad teg at weithgareddau diwylliannol. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, gan gynnwys sut i wneud cais a pha gymorth sydd ar gael i ymgeiswyr, ar gael ar wefan Diverse Cymru (dolen allanol).

Mae'r cyllid grant hwn yn ymateb uniongyrchol i ddau gam penodol yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae'n mynd i'r afael â'r angen i adolygu ceisiadau am gyllid i wella canlyniadau ar gyfer sefydliadau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol neu bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol ac yn clustnodi adnoddau i gefnogi gweithgareddau diwylliannol a chreadigol ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Hoffwn i ddiwylliant yng Nghymru fod ar gyfer pawb ac am bawb. Rydym yn gwybod bod diwylliant yn siapio ein hunaniaeth ac yn dylanwadu ar ein hymddygiad. Mae Cymru yn wlad amrywiol; mae ein hanes yn gyfoethog o straeon a diwylliannau cymunedau sefydlog ac unigolion o bob cwr o'r byd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Gellir teimlo eu cyfraniad ym mhob man. Mae pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cyfrannu at bob rhan o'n heconomi a'n cymdeithas ers cenedlaethau. I lawer, mae diwylliant wedi'i drwytho mewn deuoliaeth iaith, cerddoriaeth, bwyd a hanes; yn amlochrog ac wedi'i blethu i'w graidd.

Drwy'r grant hwn, hoffwn alluogi pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddiffinio, dehongli a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol sy'n bwysig iddynt gan greu diwylliant mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymdeithas. Diben hyn yw galluogi pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i lunio sut maen nhw'n dathlu a rhannu eu diwylliant, nid dim ond ceisio 'cynnwys' pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol mewn strwythurau sydd efallai'n cael eu hystyried yn rhai sydd wedi'u heithrio.

Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r cyfraniad parhaus gan Aelod Dynodedig Plaid Cymru wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig hwn.

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os carai aelodau ddatganiad pellach gennyf neu atebion i gwestiynau pan ddaw’r Senedd yn ei hôl, byddaf yn fwy na pharod i’w rhoi iddynt.