Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers mis Mawrth 2015, mae nifer y presgripsiynau ar gyfer Therapi Adfer Hormonau (HRT) yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 90%. Yn sgil galw cynyddol, mae cyflenwad nifer o gynhyrchion HRT ar draws y DU yn brin.

Mae’r problemau cyflenwi hyn wedi’u cyfyngu i nifer bach o gynhyrchion HRT, ond i’r menywod hynny na all gael eu presgripsiynau HRT arferol wedi’u gweinyddu, gall y goblygiadau fod yn sylweddol.

Mae’r datganiad hwn yn nodi’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau y gall menywod barhau i gael HRT – neu feddyginiaeth glinigol gyfatebol – ar gyfer eu hanghenion.

Ar 29 Ebrill, ynghyd â gweddill y DU, gwnaethom weithredu Protocolau Prinder Difrifol (SSP) ar gyfer tri chynnyrch HRT sy’n brin eu cyflenwad – jel Oestrogel, eli Ovestin a thabledi Premique dos isel a ryddheir dan reolaeth. Mae’r Protocolau’n caniatáu i fferyllwyr cymunedol gyfyngu ar faint o’r cynhyrchion hyn sy’n cael eu darparu i ddim mwy na’r hyn sy’n cyfateb i dri mis o driniaeth.

Ar 23 Mai, cyhoeddwyd Protocolau Prinder Difrifol pellach, gan gyfyngu ar gyflenwadau o fagiau bach o jel Sandrena a chwistrell Lenzetto. Bydd cyfyngu ar gyflenwadau yn y ffordd hon yn helpu i sicrhau y gall mwy o fenywod gael y cynhyrchion HRT y mae arnynt eu hangen nawr, tra mae gweithgynhyrchwyr yn cymryd camau i gynyddu’r cyflenwad o’r cynhyrchion hyn yn y tymor canolig a’r tymor hwy.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen i fenywod ddefnyddio math gwahanol o gynnyrch HRT. Mae Cymdeithas Menopos Prydain wedi llunio canllawiau cynhwysfawr i glinigwyr ar gyfwerthedd cynhyrchion HRT a’u hamnewid. Rhannwyd y canllawiau hyn â meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol yn gynharach y mis hwn.

Dylai amnewid cynhyrchion HRT fod yn benderfyniad ar y cyd rhwng menyw a chlinigydd sydd â phrofiad o roi HRT ar bresgripsiwn. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd yn briodol i fferyllydd cymunedol weinyddu cynnyrch HRT amgen pan fo’r cynnyrch hwnnw’n glinigol gyfatebol. Cyhoeddwyd pedwar Protocol Prinder Difrifol pellach ar 23 Mai sy’n caniatáu i fferyllwyr cymunedol gyflenwi mathau amgen penodol o HRT ar gyfer presgripsiynau o Oestrogel, Ovestin, Sandrena a Lenzetto, pan fo cwnsela priodol yn digwydd a dim ond gyda chydsyniad menyw.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gynnal parhad y cyflenwad o feddyginiaethau i’r DU, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a chyda’r GIG i gynnal y cyflenwad o feddyginiaethau a sicrhau y gall menywod gael y meddyginiaethau y mae arnynt eu hangen.

Dim ond un rhan o wella gofal i fenywod sy’n profi’r menopos yw gwella parhad y cyflenwad o HRT.

Rwy’n disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu ystod lawn o wasanaethau, yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), gan gynnwys y gofyniad i ddilyn dull gweithredu unigol bob adeg yn ystod diagnosis, archwiliadau a rheolaeth o’r menopos. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr angen i atgyfeirio menywod at weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd ag arbenigedd yn y menopos os nad yw triniaethau’n gwella symptomau menopos neu os yw sgil-effeithiau trafferthus yn parhau.

I gefnogi datblygiad gwelliannau i wasanaethau menopos yng Nghymru, rydym yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen menopos Cymru gyfan a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr gofal sylfaenol, gofal eilaidd a chleifion. Rydym yn ymwybodol o drefniadau lleol y gellir, o bosibl, eu rhoi ar waith yn ehangach ledled Cymru a hoffem sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu ar draws y wlad.

Yn olaf, rwyf wedi cytuno i gymryd rhan yn Nhasglu Menopos y DU a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Diben y tasglu yw rhannu’r arferion gorau, cyflymu rhaglenni gwaith sy’n ymwneud â’r menopos, ac ystyried y menopos mewn modd holistaidd fel digwyddiad bywyd y mae pob menyw yn ei wynebu.

Byddwn yn parhau i adolygu’n rheolaidd argaeledd cynhyrchion HRT a llwyddiant y mesurau hyn i wella argaeledd.