Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r brwdfrydedd a’r ymroddiad y mae pobl ifanc yn eu dangos tuag at amaethyddiaeth yng Nghymru bob amser yn gwneud cryn argraff arnaf. Mae’n hanfodol bod cenedlaethau’r dyfodol sydd am weithio yn y diwydiant yn cyflwyno syniadau newydd ac arloesol i’r sector. Un o’m blaenoriaethau allweddol oedd cefnogi ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr ac rwyf wedi siarad â llawer o bobl ifanc er mwyn deall yn well y cymorth sydd ei angen arnynt i gychwyn arni yn y diwydiant ac i ddatblygu busnesau cynaliadwy, proffidiol a chydnerth.

Mae angen inni fod yn barod i drechu unrhyw heriau wrth inni ymadael â’r UE. Mae ffermwyr yn fwy tebygol o deimlo’r effaith na sawl sector arall ac mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i wella cydnerthedd o fewn ein diwydiant. Mae’n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle y gall busnesau ffynnu a lle y caiff unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant eu cefnogi i ddod yn arweinwyr yn y maes. Rwy’n lansio, felly, ddwy fenter a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu hunain a’u busnesau i baratoi ar gyfer byd y tu allan i’r UE.

Bydd y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc yn rhoi cymorth ariannol i unigolion llwyddiannus sydd am sefydlu busnes neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bod. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos bod ganddynt y rhinweddau i arwain busnesau deinamig ac i sbarduno’r newidiadau sy’n hanfodol i sicrhau bod y diwydiant yn llwyddiannus yn y dyfodol. Mae £6 miliwn wedi’u clustnodi ar gyfer y cynllun hwn fel rhan o gytundeb ar y gyllideb rhwng y Llywodraeth a Plaid Cymru, ac rydym wedi cydweithio’n agos â’r blaid ar ddatblygu’r cynllun newydd.

I ategu’r cynllun hwn, rwy’n lansio Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaeth. Ei nod yw datblygu perthynas hirdymor strategol rhwng y Llywodraeth a phobl ifanc drwy raglen arweinyddiaeth a fydd yn cynnwys pobl ar lefel uchel yn y diwydiant, gan hoelio sylw ar amaethyddiaeth a materion gwledig. Bydd y Fforwm yn gyfle i bobl ifanc drafod yn uniongyrchol ac yn hyderus gyda’r Llywodraeth yn ogystal â chyrff o fewn y diwydiant sydd am sicrhau bod strategaethau a pholisïau yn helpu’r genhedlaeth nesaf i weithio yn y maes amaethyddol. Bydd y Fforwm yn ategu sawl rhaglen sydd eisoes yn eu lle gan rhanddeiliaid allweddol o fewn y diwydiant ar gyfer arweinwyr ifanc.

Mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i nodi’r unigolion a fydd yn aelodau o’r Fforwm newydd ac ar ôl iddo gael ei sefydlu, byddaf yn gofyn iddynt drefnu a chynnal Cynhadledd Ffermio ar gyfer Cymru gyfan. Bydd yn gyfle i ganolbwyntio ar bobl ifanc, yn enwedig ar ddarpar arweinwyr ifanc posibl y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Bydd aelodau’r Fforwm yn gweithio gyda’r Llywodraeth i ddatblygu polisïau priodol a realistig ynghyd â chamau gweithredu cyflawnadwy er lles teuluoedd a busnesau amaethyddol a chefn gwlad Cymru.

Bydd y mentrau newydd hyn yn mynd law yn llaw â’r cymorth ehangach y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig yn y diwydiant drwy grantiau Cyswllt Ffermio, y Grant Busnes i Ffermydd a rhaglenni eraill. Mae Brexit yn cyflwyno sawl her i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd. Mae ffermio yn debyg i unrhyw ddiwydiant arall o ran bod angen ffrwd gyson o bobl, syniadau ac arweinwyr newydd i sicrhau llwyddiant. Bydd y fenter newydd hon yn helpu i ddatblygu darpar arweinwyr y diwydiant ac yn sicrhau ein bod yn goresgyn heriau ac yn manteisio ar gyfleoedd.