Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad gyrfaoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr ysgol ac addysg bellach yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn yr ysgol nac mewn addysg bellach. Yn 2012-13, mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu drwy un contract cenedlaethol gyda Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG). Cwmni cyfyngedig drwy warant yw CCDG. Ffurfiwyd y cwmni gan y chwe chwmni Gyrfa Cymru, sydd bellach yn eiddo i’r cwmni newydd, a arferai gyflenwi mewn meysydd gweithredol penodol yng Nghymru.

Ar 28 Ionawr 2010, cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (y Gweinidog Addysg a Sgiliau erbyn hyn) ei fod yn bwriadu ad-drefnu’r modd y caiff gwasanaethau gyrfaoedd eu cyflenwi fel eu bod yn cael eu cynnig drwy gyfrwng un strwythur unedig. Mae’r bwriad hwn yn cyd-fynd yn agos â’r argymhellion a geir yn Gyrfa Cymru: Adolygiad o Safbwynt Rhyngwladol ac yn Uchelgeisiau i’r Dyfodol: Datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru, yr adolygiadau annibynnol o wasanaethau gyrfaoedd a gynhaliwyd yn 2009 a 2010.

Mae’r Gweinidogion wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o fis Ebrill 2013. Yn dilyn adolygiad o oblygiadau cyfreithiol ac ariannol gwahanol opsiynau, mae’r Gweinidogion wedi penderfynu trosglwyddo CCDG i berchenogaeth y cyhoedd. Yn amodol ar ddod o hyd i ateb boddhaol i’r ffordd y dylid mynd i’r afael â rhwymedigaethau pensiwn y CCDG, bydd y trefniant newydd hwn yn dod yn weithredol o fis Ebrill 2013.  Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, ystyriwyd yr elfen hanfodol ai cyflenwi drwy gyfrwng y sector cyhoeddus neu drwy’r sector preifat oedd fwyaf priodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fwrdd CCDG i ofyn am ganiatâd CCDG i ddilyn y trywydd hwn, ac mae’r caniatâd hwnnw wedi cael ei roi. Hoffwn ddiolch i’r Bwrdd a’i staff am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad yn ystod y broses o wneud penderfyniadau.

Dros y misoedd sydd i ddod, bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda CCDG i weithredu’r penderfyniad hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu perthynas gweithio agosach â CCDG yn ystod y broses honno.