Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er mwyn ymateb yn hirdymor i bandemig COVID-19 mae angen i frechlyn diogel ac effeithiol fod ar gael i bawb. Mae Tasglu Brechlyn COVID Llywodraeth y DU wedi bod yn arwain y gwaith o ariannu a chaffael brechlynnau ar gyfer y DU. Ers misoedd lawer rydym wedi gweithio’n agos gyda nhw a rhanddeiliaid allweddol eraill i fonitro’r cynnydd o ran eu datblygiad.

Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi sefydlu trefniadau llywodraethu ar lefel y DU a Chymru gyfan gydag ystod o sefydliadau partner a rhanddeiliaid i weithio ar y materion yn ymwneud â chyflenwi a logisteg erbyn y bydd y brechlyn ar gael.

Ers mis Mai 2020, mae swyddogion o bedair gwlad y DU wedi bod yn rhan o fwrdd Rhaglen Brechlyn COVID-19 y DU i rannu arbenigedd a gwybodaeth. Mae’r grŵp cyflawni gweithredol hwn wedi datblygu nifer o ffrydiau gwaith i fynd i’r afael â meysydd gwaith y DU gyfan ac mae’n adrodd i Dasglu Brechlyn y DU (VTF). Dr Gill Richardson (Uwch Gynghorydd Proffesiynol i’r Prif Swyddog Meddygol) yw’r uwch gynghorydd proffesiynol yng Nghymru sydd hefyd yn bresennol mewn cyfarfodydd wythnosol penodedig gyda’r cenhedloedd eraill.

Ochr yn ochr â’r gwaith ar draws y DU, sefydlwyd Bwrdd Rhaglen Gyflawni Brechlyn COVID-19 Cymru ar 4 Mehefin. Caiff hwn ei arwain gan Lywodraeth Cymru gydag aelodau’n cynnwys rhanddeiliaid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cynrychiolwyr ar y Bwrdd yn cynnwys y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, CLlLC, Iechyd Cyhoeddus Cymru, arweinwyr proffesiynol, y Prif Swyddog Fferyllol, grwpiau iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a chynrychiolwyr grwpiau cleifion drwy’r trydydd sector. Nododd y bwrdd ffrydiau gwaith ‘Unwaith i Gymru’ gan gynnwys cynllunio a chyflenwi; recriwtio, cofrestru, hyfforddi a pharatoi’r gweithlu; gwyliadwriaeth afiechydon; storio, dosbarthu a monitro diogelwch brechlynnau; cyfathrebu a marchnata; atal a rheoli haint, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, atebion digidol, defnyddiau traul ac effeithiolrwydd y brechlyn.

Fel rhan o’r paratoadau yng Nghymru, mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ym mis Gorffennaf i ofyn iddynt, gyda phartneriaid allweddol, i sefydlu grwpiau i ddatblygu cynlluniau lleol yn gyflym ar gyfer cyflenwi brechlyn COVID-19. Ym mis Awst fe ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol eto i ofyn am ddiweddariad pellach.

Mae pob cynllun wedi’i adolygu a’i asesu i sicrhau bod gan bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth gyfleusterau ac offer priodol i dderbyn, storio, paratoi a gweinyddu brechlynnau mewn modd diogel ac wedi’i reoli, a chynlluniau i’w darparu’n gyflym mewn sawl ffordd wahanol (brechu torfol, teithiol, galwedigaethol a gofal sylfaenol ehangach).

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu eto yn y man at Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i roi cyfarwyddyd cenedlaethol o ran gweithredu’r rhaglen frechlynnau.

Rwyf wedi cwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gweinidogion Iechyd y gweinyddiaethau datganoledig eraill ddwywaith y mis hwn i drafod datblygiadau diweddaraf brechlyn COVID a sicrhau bod cysondeb ar draws y DU gyfan o ran cyflwyno’r brechlyn.

Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod nad yw unrhyw un o’r brechlynnau sydd wedi’u caffael gan Lywodraeth y DU wedi cael y gymeradwyaeth reoleiddiol angenrheidiol. Mae Llywodraeth y DU wedi cael contractau ar gyfer hyd at 350 miliwn o ddosau o’r brechlyn drwy gytundebau gyda chwe datblygwr brechlyn unigol. Mae hyn yn cynnwys y cytundeb gyda Pfizer/BioNTech, y sicrhawyd 40 miliwn dos o’u brechlyn ar ran y DU. Os caiff ei gymeradwyo, bydd Cymru’n cael cyfran ar gyfer ei phoblogaeth yn unol â fformwla Barnett (4.78%). Pan fyddwn yn gwybod a yw’r brechlyn yn bodloni’r safonau diogelwch llym, yna bydd y rheoleiddiwr meddyginiaethau’n gallu ystyried a fydd modd ei ddarparu i’r cyhoedd.

O’n trafodaethau parhaus rydym yn ymwybodol o’r heriau sylweddol o ran storio, dosbarthu a thrin brechlyn newydd o’r math hwn. Yn benodol, yr angen i’w storio ar dymheredd isel iawn. Wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael, mae cynlluniau’r Byrddau Iechyd yn cael eu haddasu i sicrhau eu bod yn ddigon cadarn er mwyn i GIG Cymru ymateb i’r heriau hynny. 

Os caiff ei gymeradwyo, cyflenwad cyfyngedig o frechlynnau fydd ar gael i ddechrau, a bydd yn cael ei roi i’r bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf. Rwyf eisoes wedi penderfynu y bydd y drefn flaenoriaeth ar gyfer dosbarthu unrhyw frechlyn newydd yn cael ei phenderfynu yn unol â’r cyngor gan y Cyd-bwyllgor Brechlynnau ac Imiwneiddio. Mae disgwyl i’r cyd-bwyllgor ddiweddaru ei gyngor ar y categorïau blaenoriaeth cyn diwedd y mis.

Rwy’n ddiolchgar am holl waith caled y gwasanaeth hyd yma i baratoi Cymru ar gyfer cyflwyno brechlyn y mae angen mawr amdano. Mae’n bleser gennyf roi gwybod bod holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi croesawu’r her a roddwyd iddynt a bod eu cynlluniau ar gyfer derbyn y brechlyn wedi datblygu’n dda, gan gynnwys cynnal ymarferion efelychu Cymru gyfan i brofi ein trefniadau dosbarthu a storio a sicrhau y gallwn ddanfon y brechlyn yn ddiogel i bob rhan o Gymru. Mae arbenigwyr cynllunio o’r fyddin yn cynorthwyo i gefnogi darpariaeth weithredol a logisteg uwch drwy raglen gytbwys, gan gynnwys ymarferion profi byw.

Pan geir cymeradwyaeth rheoleiddiol, bydd ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn barod i ddechrau’r rhaglen frechlynnau ar gyfer pobl Cymru.