Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n dda gen i osod y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ynghyd â'i ddogfennaeth ategol heddiw.

Mae'r Bil yn sefydlu Rheoli Tir Cynaliadwy fel y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer polisi amaethyddol y dyfodol. Mae'r fframwaith polisi 'a wnaed yng Nghymru' hwn yn canolbwyntio ar amcanion ategol cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ochr yn ochr â gweithredu i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, cyfrannu at gymunedau gwledig ffyniannus a chadw ffermwyr ar y tir. Mae mabwysiadu'r dull hwn o weithredu yn ceisio sicrhau'r canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn sgil Rheoli Tir Cynaliadwy er budd pobl Cymru yn yr hirdymor.

Mae'r Bil yn ganlyniad sawl blwyddyn o ddatblygu polisiau, cyd-ddylunio, ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Diolch o galon i bawb sydd wedi rhoi eu hamser i weithio gyda ni hyd yn hyn. Canlyniad hyn yw deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol sy'n newid degawdau o gymorth ffermio'r UE, gan ddatgan newid sylweddol yn ein dull o gefnogi'r sector amaethyddol yma yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein cynigion amlinellol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y Cynllun arfaethedig fydd prif ffynhonnell cefnogaeth y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol . Mae'r Bil yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol tra hefyd yn sicrhau y gallwn barhau i gefnogi ein ffermwyr yn ystod cyfnod o drawsnewid, gan adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.

Mae'r Bil yn diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 i ddarparu llwybr i ffermwyr sy'n denantiaid i ddatrys anghydfodau er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at gymorth ariannol sy’n cael ei ddarparu o dan bŵer darpariaethau cymorth yn y Bil.  Mae hefyd yn disodli pwerau am gyfnod penodol yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 a fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024.

Bydd y Bil yn newid Deddf Coedwigaeth 1967 i roi'r pŵer i Gyfoeth Naturiol Cymru ychwanegu amodau at ddiwygio, atal neu ddirymu trwyddedau torri coed i atal torri coed a fyddai'n gwrth-ddweud deddfwriaeth amgylcheddol arall.

Yn dilyn ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu, mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud. Mae'n bwysig nodi arwyddocâd y darpariaethau hyn. Cymru fydd y cyntaf o wledydd y DU i wahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud yn llwyr.

Mae copi o'r Bil a'i ddogfennaeth ategol ar gael yma. Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ar 27 Medi 2022. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd yn ystod eu hadolygiad o Fil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y misoedd nesaf.