Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AC, Y Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi cyflwyno fy achos ar ffurf copi caled i'r Goruchaf Lys heddiw, ac amgaeaf gopi o'r achos hwnnw. Yn gyffredinol ac o safbwynt Cymru, rwyf wedi ceisio cyflwyno dadl sy’n datgan bod rhaid i’r broses o adael yr UE gael ei chynnal mewn ffordd sy’n gyson â’r trefniadau cyfreithiol a chyfansoddiadol priodol, ac mai dyma’r unig ffordd y gellir ei chynnal. Yn fy achos, rwyf yn datgan na ellir defnyddio’r pŵer uchelfreiniol i gyflwyno hysbysiad o dan Erthygl 50.

Fel rwyf wedi pwysleisio o'r blaen, nid wyf yn ceisio gwyrdroi canlyniad y refferendwm. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylid parchu'r canlyniad.

Serch hynny, mae'r broses o adael yn tynnu sylw at nifer o faterion hanfodol bwysig mewn perthynas â threfniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a'r fframwaith gyfreithiol ar gyfer datganoli.

Yn gyntaf, bydd rhoi'r hysbysiad yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a phwerau aelodau Llywodraeth Cymru o dan Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sef ein fframwaith datganoli.

Yn ail, bydd unrhyw addasiad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn dod o dan Gonfensiwn Sewel. Nid oes gan Lywodraeth y DU y pŵer i ddiystyru’r drefn bwysig hon ar gyfer trafodaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi'i ethol yn ddemocrataidd, a Senedd y DU drwy ddefnyddio'r uchelfraint yn y modd hwn.

Yn fy marn i, mae angen Deddf Seneddol i ganiatáu Llywodraeth y DU i roi hysbysiad o dan Erthygl 50.