Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol wedi'u gosod gerbron y Senedd heddiw.

Mae'r Bil yn darparu fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd fel rhan o'n rhaglen ehangach i ddiwygio addysg. Gyda’i gilydd, mae ein rhaglen ddiwygio yn codi safonau, yn mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad ac yn sicrhau bod gennym system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.

Mae'r Bil yn diddymu Rhan 7 o Ddeddf 2002, sy'n amlinellu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu presennol ar gyfer Cymru. Mae’r darpariaethau presennol yn gul ac yn gyfyngol ac nid ydynt yn gwneud digon i gefnogi athrawon i gynllunio a datblygu cwricwlwm sy’n blaenoriaethu cynnydd dysgwyr. 

Rwyf eisiau i ni symud i mewn i gyfnod newydd, lle mae pob dysgwr yn elwa ar addysg eang a chytbwys. Byddwn yn deddfu ar gyfer y pedwar diben. Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a ffug-wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.  

Bydd y fframwaith newydd ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain yn seiliedig ar ddull gweithredu cenedlaethol sy'n sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer dysgwyr ledled y wlad. 

Mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn tynnu disgyblaethau cyfarwydd ynghyd, ac yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon rhyngddynt. Er bod y disgyblaethau’n parhau i fod yn bwysig, mae’r dull newydd hwn yn cefnogi dysgwyr i feithrin cysylltiadau gydol eu haddysg, gan eu helpu i ddeall nid yn unig yr hyn y mae’n nhw ei ddysgu, ond pam eu bod yn ei ddysgu.

Bydd hyn yn berthnasol i ddysgwyr 3-16 oed mewn ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir. Bydd y Bil yn caniatáu ar gyfer darparu cwricwlwm mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ar gyfer dysgwyr y mae awdurdodau lleol yn sicrhau addysg ar eu cyfer mewn lleoliadau eraill. Bydd hefyd darpariaeth gyfyngedig ar gyfer addysg ôl-orfodol mewn ysgolion a gynhelir.

Byddaf yn cyflwyno datganiad llafar ar y Bil i’r Senedd ddydd Mercher 8 Gorffennaf. Mae copi o'r bil a'r dogfennau ategol ar gael yma.