Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cafodd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (‘y Bil’) ei osod gerbron Senedd Cymru (‘y Senedd’) ynghyd â’r Memorandwm Esboniadol.

Mae’r Bil hwn yn gam allweddol tuag at atal llif llygredd plastig i mewn i’n hamgylchedd, ac mae’n rhan o’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Mae’r Bil yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) y cynhyrchion plastig untro (SUP) canlynol i ddefnyddiwr yng Nghymru, sef yr eitemau mwyaf cyffredin o ran cael eu taflu fel sbwriel:

  1. cytleri
  2. platiau
  3. troellwyr
  4. gwellt diodydd – mae esemptiad yn berthnasol i’r eitem hon ar gyfer anghenion iechyd
  5. ffyn cotwm
  6. ffyn balwnau
  7. cynwysyddion bwyd brys wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu allwthiedig
  8. cwpanau wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu allwthiedig
  9. caeadau polystyren ar gyfer unrhyw gwpan a chynhwysydd bwyd brys
  10. bagiau plastig tenau untro – mae esemptiad yn berthnasol i’r eitem hon ar gyfer anghenion iechyd neu ddiogelwch
  11. unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-ddiraddiadwy

Mae’r Bil yn darparu pwerau i awdurdodau lleol orfodi’r drosedd hon.

Mae’n bwysig nodi bod y Bil yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu neu ddiwygio’r cynhyrchion plastig untro y mae’r drosedd hon yn berthnasol iddynt. Yn gyntaf, bydd yn ofynnol iddynt adrodd ar y cynhyrchion y maen nhw’n eu hystyried. Bydd rheoliadau o’r fath yn cael eu gwneud yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Rhaid i ni gymryd camau ar fyrder er mwyn osgoi gadael gwaddol gwenwynig i genedlaethau’r dyfodol ymdrin ag ef. Fel llywodraeth, rydym yn adeiladu ar fomentwm cymunedau ledled Cymru sydd wedi dewis peidio â defnyddio plastig, herio ein diwylliant gwastrafflyd a mynd i’r afael â sbwriel.

Bydd y Bil hwn a wnaed yng Nghymru yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod ar flaen y gad o ran gweithredu ynglŷn â phlastig ac yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn llywio camau pellach yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae aelodau o’r Senedd wedi bod yn gofyn am gymryd camau ar frys i gyfyngu ar ddefnyddio plastigion untro pan nad yw’n hanfodol neu pan nad oes rheswm meddygol dros wneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar y darpariaethau yn y Bil yn ystod y misoedd nesaf.